Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CYLLID A DADANSODDEG DATAMAWR MSc ALl

CYFRIFEG BROFFESIYNOL MSc ALl Bydd MSc mwen Cyfrifeg Broffesiynol yn caniatáu i gyfrifwyr cymwysedig ymuno â modiwl prosiect annibynnol i ennill yr MSc. Mae'n rhaid eich bod wedi ennill eich cymhwyster fel cyfrifydd gyda chyrff proffesiynol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a bydd gennych gredydau o'ch dysgu blaenorol fel cyfrifydd cymwysedig. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau ail fodiwl mewn Dulliau Ymchwil Meintiol i'ch paratoi ar gyfer y prosiect annibynnol a fydd ar gael o bell, gan ganiatáu i fyfyrwyr gwblhau fel dysgwyr o bell. Mae modiwlau'n cynnwys: • Dulliau Ymchwil • Prosiect Annibynnol CYFRIFEG STRATEGOL MSc ALl ION Bydd gennych radd gyntaf berthnasol yn barod a byddwch wedi llwyddo yn eich arholiadau ACCA sylfaenol cyn dechrau ar y rhaglen hon. Fel rhan o'r radd meistr fanwl hon, byddwch yn dysgu'r damcaniaethau a'r arferion diweddaraf a sut i'w cymhwyso fel cyfrifydd proffesiynol, wrth i chi baratoi ar gyfer arholiadau proffesiynol ACCA. Ni fydd angen i fyfyrwyr sy'n ennill y radd MSc hon ac yn llwyddo yn eu holl arholiadau ACCA proffesiynol astudio ymhellach a byddant yn gallu canolbwyntio'n llwyr ar eu gyrfa. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys:

CYLLIDMSc ALl Wedi'i chynllunio ar gyfer

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i baru meysydd allweddol dadansoddi cyllid a busnes, ac mae'n mynd ati i ddadansoddi marchnadoedd ariannol a gwybodaeth sefydliadol ar sail data. Mae hefyd yn cwmpasu egwyddorion allweddol cyllid, modelu ariannol a marchnadoedd ariannol ac yn eich galluogi i weithio ym meysydd data cyllid a rheolaeth ariannol. Gallwch hefyd gael eu heithrio rhag gorfod sefyll hyd at bum arholiad sylfaenol ACCA ar y rhaglen hon. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyllid Empiraidd • Dadansoddi Data Cymhwysol • Data Mawr ym Maes Cyllid • Dulliau Ymchwil Meintiol • Egwyddorion Cyllid • Marchnadoedd Ariannol Rhyngwladol RHEOLI ARIANNOL PGDip/MSc ALl Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn newid i yrfa ym maes cyllid, ac mae'n cyfuno theori academaidd cyllid â safbwynt ymarferol cadarn, gan hwyluso dealltwriaeth gadarn o gyllid a disgyblaethau cysylltiedig. Gallwch hefyd gael eu heithrio rhag gorfod sefyll hyd at bum arholiad sylfaenol ACCA ar y rhaglen hon. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Dulliau Ymchwil Meintiol • Egwyddorion Cyllid • Llywodraethu Corfforaethol a Moeseg • Marchnadoedd Ariannol Rhyngwladol • Paratoi a Dadansoddi Datganiadau Ariannol

graddedigion sy'n chwilio am raglen arbenigol er mwyn gallu dilyn llwybr carlam i yrfa gyllid, mae'r rhaglen hon yn cyfuno theori academaidd cyllid â safbwynt ymarferol cryf, gan ddefnyddio tueddiadau presennol ac arferion o fewn y diwydiant er mwyn llywio'r gwaith addysgu a thrafod. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o rôl a phwysigrwydd gwybodaeth gyfrifeg yn nhermau rheolaeth ariannol sefydliadau cymhleth ac yn graddio â dealltwriaeth gadarn o gyllid a'i ddisgyblaethau cysylltiedig. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Adroddiadau Ariannol a Dadansoddi Datganiadau • Cyllid Corfforaethol • Cyllid Empiraidd • Econometreg Ariannol • Marchnadoedd a Sefydliadau Ariannol Rhyngwladol • Rheoli Risg CYLLID A BANCIO RHYNGWLADOL MSc ALl Mae'r rhaglen hon ar gyfer graddedigion sydd am ddatblygu sylfaen gadarn mewn cyllid a bancio rhyngwladol er mwyn eu paratoi ar gyfer gyrfa mewn bancio, masnachu neu ddadansoddi ariannol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth ddatblygedig o egwyddorion a thechnegau cyllid rhyngwladol, datblygu, masnach a bancio, gwybodaeth am weithgareddau marchnadoedd a sefydliadau ariannol mewn economïau datblygedig ac sy'n dod i'r amlwg, a gwerthfawrogiad o rôl rheoli risg mewn sefydliadau cymhleth. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Bancio a Rheoleiddio Rhyngwladol • Cyllid Corfforaethol • Cyllid Empiraidd • Econometreg Ariannol • Marchnadoedd a Sefydliadau Ariannol Rhyngwladol

• Adroddiadau Corfforaethol • Archwilio a Sicrwydd Uwch • Arweinydd Busnes Strategol • Rheoli Perfformiad Uwch

• Paratoi a Dadansoddi Datganiadau Ariannol • Prosiect Annibynnol

65

Made with FlippingBook - Online magazine maker