Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CYFRIFEG A CHYLLID CAMPWS Y BAE

Mae'r tair rhaglen uchod yn cynnwys llawer mwy o amser cyswllt er mwyn eich galluogi i drosi i gyfrifeg neu gyllid mewn blwyddyn. Dylai myfyrwyr sydd am astudio cyllid ochr yn ochr ag arbenigedd ym maes rheolaeth gyfeirio at y rhaglen MSc Rheoli (Cyllid) ar dudalen 142. RHAGLENNI I FYFYRWYR Â CHEFNDIR CYFRIFEG NEU GYLLID NEU DDISGYBLAETH GYSYLLTIEDIG Mae'r rhaglenni hyn wedi'u cynllunio i wella eich astudiaethau israddedig a rhoi eich gyrfa ar lwybr carlam. Er mwyn ymuno â'r rhaglenni hyn, rhaid bod myfyrwyr wedi astudio cyfrifeg neu gyllid. Nid oes angen i hyn o reidrwydd fod yn radd â ‘Cyfrifeg a Chyllid’ yn y teitl, ond gallai fod yn economeg, busnes, neu unrhyw raglen gyffredinol â swm sylweddol o gynnwys cyfrifeg neu gyllid. RHEOLI BUDDSODDIADAUMSc ALl Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar reoli ariannol a rheoli buddsoddiadau ac mae wedi'i hachredu gan y Sefydliad Ariannol Siartredig (CFA) ac mae gan y rhaglen statws Prifysgol Gysylltiol. Bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth ddatblygedig o reoli asedau a risg mewn sefydliadau cymhleth, gan eich paratoi i ddod yn fasnachwyr ac yn rheolwyr buddsoddi yn y dyfodol. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyllid Corfforaethol • Cyllid Empiraidd • Econometreg Ariannol • Marchnadoedd a Sefydliadau Ariannol Rhyngwladol • Rheoli Asedau

GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD Mae gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe dîm gyrfaoedd penodedig sydd wedi'i deilwra'n benodol i chi fel myfyriwr rheoli. Nod y gwasanaeth hwn yw sicrhau bod cyflogadwyedd yn cael ei hybu ac yn parhau i fod yn ffocws pwysig drwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes ardderchog o sicrhau cyflogaeth i fyfyrwyr. Mae eisoes wedi helpu llawer o fyfyrwyr i gael eu swyddi a'u lleoliadau delfrydol. Dyma ble y bydd angen i chi droi i gael: • Cyngor ar leoliadau • Awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu CV • Awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau (cyfweliadau cyffredinol a phrofion seicometrig) • B ydd y tîm hyd yn oed yn ymchwilio

CYLLID PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan

ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil. Anogir ymgeiswyr i archwilio arbenigedd ymchwil yr Ysgol er mwyn sicrhau cyfatebiaeth dda rhwng cynigion PhD a darpar oruchwylwyr. Gellir cael gwybodaeth am y gyfadran bresennol a grwpiau ymchwil yr Ysgol yn: abertawe.ac.uk/ysgol-reolaeth/ ymchwil

i'r cwmnïau rydych am weithio iddynt ac yn rhoi cyngor i chi ar fformat eu cyfweliadau

MAE'R ACHREDIADAU'N CYNNWYS:

AELODAETH:

66

Made with FlippingBook - Online magazine maker