Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

YMCHWI L .

ARLOESEDD IECHYD Mae iechyd yn bwysig, boed yn iechyd ein meddwl, ein cyrff neu ein lles. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn datblygu ac yn gwella’r ffordd mae’r byd yn ystyried polisïau, systemau, cynnyrch, technolegau a gwasanaethau iechyd sy’n helpu i wneud pobl a chymdeithas yn well. Mae Prifysgol Abertawe’n gartref i Gronfa Ddata o’r radd flaenaf, SAIL, sy’n cadw data ar yr unigolyn yn ddiogel ac yn ei ddefnyddio mewn ffordd ddienw. Mae ymchwil a wneir yn y Grŵp Gwybodeg Iechyd yn cyflawni canlyniadau i wella iechyd, lles a gwasanaethau. Mae’n hymchwilwyr yn arwain y ffordd o ran arloesedd iechyd er mwyn gwella bywydau pobl: o greu’r genhedlaeth nesaf o bympiau gwaed chwyddadwy ar gyfer methiant difrifol y galon, i brofi clytiau croen micronodwyddau er mwyn rhoi brechlyn. Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn mabwysiadu ymagweddau arloesol at feddygaeth ac iechyd drwy ymchwilio i’r defnydd o gynrhon i lanhau anafiadau a defnyddio salmonela i wella canser. Rydym yn deall pwysigrwydd iechyd, corfforol a meddwl, ac yn ymdrechu i wella iechyd y boblogaeth a systemau iechyd ledled y DU. abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ arloesi-ym-maes-iechyd

05

Made with FlippingBook - Online magazine maker