YN GYFFREDINOL A'R UCHAF YNG NGHYMRU (The Times and Sunday Times, Canllaw Prifysgolion Da 2020) 8 FED YN Y DU
CYFRIFIADUREG CAMPWS Y BAE
Mae pwnc Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe yn ehangu ac mae bellach wedi'i leoli yn adeilad newydd gwerth £32.5 miliwn y Ffowndri Gyfrifiannol, sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf er mwyn galluogi ein myfyrwyr a'n staff i wneud gwaith ymchwil cyfrifiannol a mathemategol trawsnewidiol. Mae ein labordai rhwydwaith llawn yn rhedeg Windows a Linux ac yn cefnogi ystod eang
o feddalwedd gan gynnwys ieithoedd rhaglennu Java, C# a fframwaith .NET, C, C++, Haskell a Prolog. Hefyd, ceir amgylcheddau datblygu rhaglenni integredig fel Visual Studio, Eclipse; Pecyn Microsoft Office a ddefnyddir yn eang; adnoddau mynediad i'r we a llawer o adnoddau meddalwedd diben arbennig gan gynnwys adnoddau rendro a delweddu graffigol. Mae'r holl feddalwedd yn feddalwedd ffynhonnell agored sydd ar gael am ddim neu'n cael ei darparu.
Bydd pob myfyriwr yn dilyn modiwl mewn Dulliau Ymchwil Prosiect Cyfrifiadureg cyn cyflawni prosiect unigol dros yr haf. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Adnabod Delweddau a Dysgu Dwfn gan Gyfrifiadur • Cadwynbloc, Cudd-Arian Cyfred a Chontractau Deallus • Caledwedd a Dyfeisiau • Cyfrifiadura Perfformiad Uchel mewn C/C++ • Cynllunio System wedi'i Mewnblannu • Dadansoddi Gweledol • Data Mawr a Chloddio Data • Data Mawr a Dysgu Peirianyddol • Datblygu Cymwysiadau Gwe • Delweddu Data • Diogelwch TG: Cryptograffeg a Diogelwch Rhwydweithiau • Gwendidau Diogelwch a Phrofi Treiddiad • Profi Meddalwedd • Pynciau Uwch: Deallusrwydd Artiffisial a Seiberddiogelwch • Rhaglennu Prosesu Graffeg • Rheoli Diogelwch Gwybodaeth • Rhesymeg mewn Cyfrifiadureg • Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron • Systemau Critigol • Systemau Gweithredu a'u Seilwaith • Technegau Modelu a Dilysu
TECHNOLEGMEDDALWEDD UWCH MSc ALl RhA Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi graddio mewn Cyfrifiadureg neu os ydych wedi ennill rhywfaint o brofiad o gyfrifiadura a rhaglennu sylfaenol yn eich gradd gyntaf. Bydd y rhaglen hon hefyd o ddiddordeb i chi os oes gennych brofiad perthnasol sylweddol o weithio mewn amgylchedd cyfrifiadurol am beth amser a'ch bod am ddiweddaru neu ehangu eich gwybodaeth. Bydd pob myfyriwr yn dilyn modiwlau mewn Cynllunio a Rheoli Prosiect Peirianneg Meddalwedd, a Phrofi Meddalwedd, yn ogystal â chyflawni Prosiect Tîm Meddalwedd cyn gweithio ar brosiect meddalwedd unigol dros yr haf. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Adnabod Delweddau a Dysgu Dwfn gan Gyfrifiadur • Cadwynbloc, Cudd-Arian Cyfred a Chontractau Deallus • Caledwedd a Dyfeisiau • Cyfrifiadura Perfformiad Uchel mewn C/C++ • Cynllunio System wedi'i Mewnblannu • Dadansoddi Gweledol • Data Mawr a Chloddio Data • Data Mawr a Dysgu Peirianyddol
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
CYFRIFIADUREGUWCHMSc ALl RhA Ar y cwrs MSc Cyfrifiadureg Uwch byddwch yn gwbl barod i ddilyn gyrfa mewn TG neu ddiwydiannau cysylltiedig. Mae'r cwrs i chi os ydych wedi graddio mewn Cyfrifiadureg neu os ydych wedi ennill profiad o gyfrifiadura a rhaglennu mewn gradd gyntaf wahanol. Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) ar gyfer ysgoloriaethau ôl-raddedig. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyllid ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. Yn ddiweddar rydym wedi sicrhau cyllid gan sefydliadau fel Cyngor Ymchwil
ION
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
68
Made with FlippingBook - Online magazine maker