Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

• Datblygu Cymwysiadau Gwe • Delweddu Data • Diogelwch TG: Cryptograffeg a Diogelwch Rhwydweithiau • Gwendidau Diogelwch a Phrofi Treiddiad • Profi Meddalwedd • Pynciau Uwch: Deallusrwydd Artiffisial a Seiberddiogelwch • Rhaglennu Prosesu Graffeg • Rheoli Diogelwch Gwybodaeth • Rhesymeg mewn Cyfrifiadureg • Rhyngweithio Rhwng Pobl a Chyfrifiaduron • Systemau Critigol • Systemau Gweithredu a'u Seilwaith Mae'r cwrs MSc Cyfrifiadureg i chi os ydych wedi graddio mewn un o blith ystod eang o ddisgyblaethau a'ch bod am newid cyfeiriad neu, oherwydd anghenion eich dewis yrfa, fod angen sail gadarn mewn Cyfrifiadureg arnoch. Bydd pob myfyriwr yn dilyn modiwl mewn Dulliau Ymchwil Prosiect Cyfrifiadureg cyn cyflawni prosiect unigol dros yr haf. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Adnabod Delweddau a Dysgu Dwfn gan Gyfrifiadur • Caledwedd a Dyfeisiau • Cyfrifiadura Perfformiad Uchel mewn C/C++ • Cynllunio System wedi'i Mewnblannu • Cysyniadau ac Effeithlonrwydd Meddalwedd • Cysyniadau System Gyfrifiadurol • Dadansoddi Gweledol • Data Mawr a Chloddio Data • Data Mawr a Dysgu Peirianyddol • Datblygu Cymwysiadau Gwe • Delweddu Data • Egwyddorion Peirianneg Meddalwedd • Profi Meddalwedd • Rhaglennu Java • Rhaglennu Prosesu Graffeg • Rhesymeg Mewn Cyfrifiadureg • Technegau Modelu a Dilysu CYFRIFIADUREGMSc ALl RhA ION

• Rhyngweithio Rhwng Pobl a Chyfrifiaduron • Systemau Critigol • Systemau Cronfa Ddata Perthynol a Gwrthrych-Gyfeiriadol • Systemau Gweithredu a'u Seilwaith • Technegau Modelu a Dilysu GWYDDOR DATAMSc ALl RhA ION Bydd y rhaglen hon yn rhoi sail gadarn i chi mewn cysyniadau a thechnolegau gwyddor data ar gyfer echdynnu gwybodaeth a chreu gwybodaeth o ddata. Byddwch yn astudio egwyddorion, dulliau a systemau cyfrifiadura ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau go iawn sy'n galw am sylfeini mathemategol, sgiliau rhaglennu, meddwl beirniadol, a dyfeisgarwch. Bydd meithrin sgiliau ymchwil yn rhan hanfodol o'r rhaglen, gan eich galluogi i ymdrin â gwyddor data cyfredol o safbwynt beirniadol a chymhwyso hyn at ddatblygiadau yn y dyfodol mewn amgylchedd technolegol sy'n newid yn gyflym. Bydd pob myfyriwr yn dilyn modiwl mewn Dulliau Ymchwil Cyfrifiadureg cyn cyflawni prosiect unigol dros yr haf. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Adnabod Delweddau a Dysgu Dwfn gan Gyfrifiadur • Cyfrifiadura Perfformiad Uchel mewn C/C++ • Cysyniadau System Gyfrifiadurol • Dadansoddi Gweledol • Data Mawr a Chloddio Data • Data Mawr a Dysgu Peirianyddol • Delweddu Data • Rhaglennu Prosesu Graffeg • Rhyngweithio Rhwng Pobl a Chyfrifiaduron • Sgiliau Mathemategol ar Gyfer Gwyddonwyr Data • Systemau Gweithredu a'u Seilwaith • Technegau Modelu a Dilysu

SEIBERDDIOGELWCHMSc ALl RhA ION Mae ein byd fwyfwy cysylltiedig yn cyflwyno bygythiadau diogelwch newydd a difrifol yn barhaus. O dorri rheolau preifatrwydd (hacio, monitro gohebiaeth, rhannu data sensitif, dwyn a chyhoeddi gwybodaeth breifat) i'r farchnad gyffuriau, masnachu mewn pobl er mwyn manteisio arnynt yn rhywiol a therfysgaeth, gall staff arbenigol Cyfrifiadureg Abertawe ddarparu'r technegau sydd eu hangen i liniaru risgiau o'r fath er mwyn sicrhau systemau diogel a dibynadwy y gellir ymddiried ynddynt. Fel rhan o'r radd MSc hon rydym yn mabwysiadu dull cyfannol a rhyngddisgyblaethol o weithredu, gan ddwyn ynghyd fodiwlau ar bynciau amrywiol megis profi treiddiad, modelu ffurfiol, rheoli diogelwch gwybodaeth, cryptograffeg a deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau bod gan ein myfyrwyr feddylfryd addas ar gyfer gyrfa ym maes seiberddiogelwch. Mae ein Labordy Seiberddiogelwch yn ddelfrydol ar gyfer ymchwilio i'r dirwedd diogelwch, gan alluogi myfyrwyr a staff i gynnal arbrofion ym maes seiberddiogelwch a diogelwch symudol, ac archwilio bygythiadau a dulliau amddiffyn yng nghyd-destun Rhyngrwyd y Pethau. Yn dilyn elfen a addysgir y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect ymchwil helaeth sy'n cynnwys defnyddio ac archwilio technegau ar gyfer nodi, datblygu, dilysu a defnyddio systemau yn erbyn meini prawf diogelwch. Bydd myfyrwyr yn cael budd o'n hystod eang o bartneriaid diwydiannol ac arbenigedd ymchwil sy'n arwain yn rhyngwladol.

69

Made with FlippingBook - Online magazine maker