CYFRIFIADUREG CAMPWS Y BAE
Byddwch yn cyflawni eich prosiect mawr ar y cyd ag un o'n partneriaid o'r radd flaenaf (gan gynnwys Google, Facebook, y GIG, Tata Steel, Ford, Microsoft a llawer mwy), a hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol i wella sgiliau, megis blychau tywod, enciliadau a digwyddiadau hyfforddi â ffocws pendant. Fel rhan o gohort clòs, bydd myfyrwyr yn dysgu dulliau sy'n canolbwyntio ar fodau dynol, wedi'u seilio ar amrywiaeth eang o safbwyntiau damcaniaethol, arbrofol, arbenigol a methodolegol er mwyn deall sut y gall y rhain ddatblygu a gwella potensial bodau dynol ym meysydd data mawr a deallusrwydd artiffisial. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Astudiaethau Achos o Bartneriaid Diwydiannol • Camddefnyddio, Tueddiadau a Bendithion Data • Dadansoddi Gweledol • Data Mawr a Dysgu Peirianyddol • Deallusrwydd Artiffisial • Dewis o Bynciau sy'n Gysylltiedig â'r Gyfraith, Gofal Iechyd, a Ffatrïoedd y Dyfodol • Gwerthuso a Dadansoddi sy'n Canolbwyntio ar Fodau Dynol • Rhyngwynebau a Moddolrwyddau • Safbwyntiau a Dulliau sy'n Canolbwyntio ar Fodau Dynol • Systemau Critigol • Strwythurau Data a'u Seilwaith • Ymddiriedaeth, Ymresymu a Gwirio
CYFRIFIADUREG: INFORMATIQUE MSc (LLWYBRAU ABERTAWE A GRENOBLE) ALl Mae Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes yn cynnig dwy radd MSc Dyfarniad Deuol mewn Cyfrifiadureg: Informatique. Mae'r ddwy yn arwain at raddau o'r ddwy Brifysgol ac mae'r ddwy yn para dwy flynedd – blwyddyn yn Abertawe, a blwyddyn yn Grenoble. Addysgir y graddau drwy gyfrwng y Saesneg fel arfer ond gallwch ddewis eu hastudio yn Ffrangeg os ydych yn ddigon rhugl. Mae cynllun llwybr Grenoble yn dechrau yn Grenoble ac yn gorffen yn Abertawe – a'r arbenigeddau sydd ar gael yw: • Data Mawr, Graffeg a Delweddu • Systemau Symudol • Technoleg Meddalwedd • Theori a Sylfeini Mae llwybr Abertawe yn dechrau yn Abertawe ac yn gorffen yn Grenoble – a'r arbenigeddau sydd ar gael yw : • Deallusrwydd Artiffisial a'r We • Graffeg, Lluniau a Roboteg • Gwyddor Data • Systemau Gwybodaeth Uwch a Pheirianneg Meddalwedd • Systemau Hollbresennol a Rhyngweithiol • Systemau Paralel, Dosbarthedig a Mewnblanedig
Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cadwynbloc, Cudd-Arian Cyfred a Chontractau Deallus • Cynllunio System wedi'i Mewnblannu • Datblygu Cymwysiadau Gwe • Diogelwch TG: Cryptograffeg a Diogelwch Rhwydweithiau • Dychymyg ac Arloesedd ym Maes Cyfrifiadura • Gwendidau Diogelwch a Phrofi Treiddiad • Pynciau Uwch: Deallusrwydd Artiffisial a Seiberddiogelwch • Rheoli Diogelwch Gwybodaeth • Systemau Critigol DATA MAWR A DEALLUSRWYDD ARTIFFISIAL O SAFBWYNT DEFNYDDWYR MSc ALl Cewch hyfforddiant ar wyddor gyfrifiannol anturus a chyffrous, gan weithio ar heriau go iawn a fydd yn gweddnewid cymdeithas a'r economi. Er bod pryderon dilys yngl ŷ n ag effaith bosibl data mawr a deallusrwydd artiffisial ar unigolion, cymunedau, swyddi a chymdeithas, mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar botensial, anghenion, dyheadau a phryderon bodau dynol, a sut y gellir defnyddio'r cymhellion hyn i sbarduno arloesedd.
• Systemau Seiberffisegol a Mewnblanedig Hyder Uchel
70
Made with FlippingBook - Online magazine maker