“
Rwy'n Beiriannydd Ymchwil a Datblygu gyda Vortex IoT ar hyn o bryd lle rydym yn dylunio ac yn datblygu cynhyrchion arloesol a systemau'r rhyngrwyd pethau i amgylcheddau garw. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu systemau monitro ansawdd yr aer a mewnwthiad rheilffyrdd a systemau canfod rhwystrau. Mae'r systemau hyn yn cael eu dylunio a'u hadeiladu'n gyfan gwbl yn fewnol gan y tîm ymchwil a datblygu a meddalwedd. Yn ogystal â chaledwedd, rydym yn dylunio rhyngwynebau gwe a systemau dadansoddi a rheoli data i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae rhwydweithiau synhwyro'n ei ganfod. Gwneir hyn drwy ein systemau dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial a ddatblygwyd yn fewnol. Canolbwyntiais ar fodiwlau 'caledwedd a dyfeisiau' a 'systemau wedi'u mewnosod' yn ystod fy ngradd meistr, a rhoddodd gyfle i mi weithio ar y ffin lle mae'r ffisegol yn cwrdd â'r digidol. O hyn, dynhaliais fy ymchwil ar gyfer fy nhraethawd ymchwil mewn rhwydweithio'r rhwydwaith. Helpodd y sgiliau hyn i mi gael swydd ym maes datblygu systemau wedi'u mewnosod a gweithio o amgylch y byd o systemau'r rhyngrwyd pethau sy'n tyfu. Yr amgylchedd meddwl rhydd lle caiff pob un ohonom ein hannog gan y darlithwyr i wynebu problemau newydd a'u trin o bob safbwynt yw'r peth gorau am y cwrs MSc a'r amgylchedd dysgu ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Adran Gyfrifiadureg yn llawn pobl ddeallus iawn sydd â chysylltiadau a diddordebau mewn sawl maes. Cewch fanteisio ar y gronfa enfawr hon o wybodaeth yn fyfyriwr yn yr adran. Byddwn yn annog myfyrwyr i fanteisio ar hyn. Siaradwch â'ch cyfoedion a darlithwyr am fwy na chyfrifiadureg, defnyddiwch yr amser sydd gennych i archwilio diddordebau i'ch gwneud chi'n unigolyn mwy cyflawn. Bydd eich gradd/cymwysterau'n sicrhau cyfweliad i chi, ond eich gwybodaeth amgylchynol a'ch diddordebau fydd yn sicrhau'r swydd i chi.
MSc CYFRIFIADUREG 2018 Peiriannydd Ymchwil a Datblygu, Vortex IoT
71
Made with FlippingBook - Online magazine maker