Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CYFRIFIADUREG CAMPWS Y BAE

• Delweddu data • Rhaglennu prosesu graffeg Gan arwain at brosiect ymchwil terfynol.

Gr ŵ p Rhesymeg a Chyfrifiannu Un o'r grwpiau mwyaf o wyddonwyr cyfrifiadurol damcaniaethol yn y DU, sydd â rhaglen ymchwil fawr yn cynnwys llawer o gydweithredwyr rhyngwladol. Dros y deugain mlynedd diwethaf, mae damcaniaethwyr Abertawe wedi gwneud darganfyddiadau anhygoel ac arloesol o ran theori data, algorithmau, prosesau, ieithoedd rhaglennu, ieithoedd manylebau, ymresymu a dilysu systemau. Gr ŵ p TechnolegRhyngweithio'r Dyfodol Labordy Technoleg Rhyngweithio'r Dyfodol (Lab FIT) yw grŵp Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron y Coleg Gwyddoniaeth. Ein nod yw sicrhau bod pobl wrth wraidd arloesedd technolegol – creu platfformau, dyfeisiau a gwasanaethau sydd nid yn unig yn ymarferol ond yn ddefnyddiadwy, yn effeithlon ac yn bleserus. Ers iddo agor yn 2006, mae Lab FIT wedi tyfu'n ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil o'r radd flaenaf ar gyfer rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron. Gr ŵ p Diogelwch Mae diogelwch yng nghyd-destun Cyfrifiadureg yn cwmpasu agweddau technegol fel diogelu ein bywyd digidol rhag amrywiaeth o ymosodiadau a gwarantau mewn perthynas ag agweddau cymdeithasol fel preifatrwydd a defnyddio polisïau. Mae gwyddonwyr cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyfrannu at y maes ac maent yn parhau i wneud hynny – e.e. yr economi ddigidol, cudd-arian cyfred, diogelwch a phreifatrwydd data personol, seiberderfysgaeth a seiberdroseddu a diogelwch symudol, ymhlith llawer mwy. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein hymchwil ar ein gwefan:  abertawe.ac.uk/cyfrifiadureg/ ymchwil-ac-effaith

RHESYMEG A CHYFRIFIANNU MRes ALl RhA Ar y cwrs MRes Rhesymeg a

Chyfrifiannu byddwch yn dysgu am dechnegau datblygedig mewn rhesymeg a ffyrdd o'u rhoi ar waith. Cewch addysg o'r radd flaenaf sy'n uniongyrchol berthnasol i broblemau ymchwil a datblygu ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) gyfoes. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Rhesymeg mewn cyfrifiadureg • Systemau critigol • Technegau modelu a dilysu Gan arwain at brosiect ymchwil terfynol. CYFRIFIADUREG MSc drwy Ymchwil/MPhil/PhD ALl RhA CYFRIFIADUREGDDAMCANIAETHOL MScdrwyYmchwil ALl RhA CYFRIFIADURA GWELEDOL A RHYNGWEITHIOL MSc drwy Ymchwil ALl RhA RHYNGWEITHIO RHWNG POBL A CHYFRIFIADURON MSc drwy Ymchwil ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn gysylltiedig â'n themâu: Gr ŵ p Cyfrifiadura Gweledol a Rhyngweithiol Ers 1992, pan gafodd ei sefydlu, mae'r grŵp wedi tyfu i fod yn dîm a welir yn rhyngwladol, sydd, ar hyn o bryd, yn cynnwys chwe academydd, wyth ymchwilydd, 14 o fyfyrwyr PhD/MPhil a phum aelod o staff cysylltiedig. Mae'r grŵp yn dilyn rhaglen uchelgeisiol ac ymchwilgar i ddatblygu algorithmau a dulliau newydd, yn ogystal â thechnegau ac adnoddau feddalwedd datblygedig, ar gyfer graffeg gyfrifiadurol, delweddu a systemau rhyngweithiol.

CYFRIFIADURA A THECHNOLEGAU RHYNGWEITHIO'R DYFODOL MRes ALl RhA Addysgir yr MRes gan Lab Technoleg Rhyngweithio'r Dyfodol (FIT), o fewn Cyfrifiadureg. Cenhadaeth Lab FIT yw archwilio a chymhwyso Cyfrifiadureg Uwch er mwyn gwneud technolegau rhyngweithio yn ddibynadwy, yn effeithiol ac yn llawn mwynhad. At hynny, anelwn at weithio ar heriau mawr, fel gwella diogelwch ym maes gofal iechyd, neu ddatblygu technoleg i gyrraedd miliynau o bobl a'n helpu i fyw bywydau mwy effeithiol a chynaliadwy. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Caledwedd a Dyfeisiau • Cynllunio Systemau Rhyngweithiol • Dadansoddi Gweledol sy'n Canolbwyntio ar Fodau Dynol • Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron Gan arwain at brosiect ymchwil terfynol. CYFRIFIADURAGWELEDOLMRes ALl RhA Mae MRes yn gam delfrydol tuag at yrfa ymchwil neu arbenigo yn y maes a gaiff ei astudio. Yn arbennig, mae'r MRes Cyfrifiadura Gweledol yn anelu at eich paratoi ar gyfer ymchwil bellach ym meysydd Graffeg Cyfrifiadurol, Lluniau Cyfrifiadurol, Delweddu Meddygol, a Delweddu Gwyddonol. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Adnabod delweddau a phatrymau gan gyfrifiadur • Caledwedd a dyfeisiau • Dadansoddi data

72

Made with FlippingBook - Online magazine maker