CAMPWS PARC SINGLETON Y CYFRYNGAU, CYFATHREBU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS
PWNC (Complete University Guide 2021) UCHAF YN Y DU 10
O gyfryngau print a darlledu traddodiadol i ffilm a theledu, cyhoeddi digidol, rhwydweithio cymdeithasol, a chysylltiadau cyhoeddus, mae'r cyfryngau yn diffinio'r ffordd rydym yn rhyngweithio â chymdeithas fwyfwy. Maent yn llywio'r ffordd rydym yn gweld ein hunain ac eraill, a gallant fod yn adnodd pwerus ar gyfer newid cymdeithasol, er gwell neu er gwaeth.
Rydym yn dilyn dulliau ymchwil, ymarferol a rhyngwladol sy'n adlewyrchu heriau ein byd cyfryngau-gyfoethog. Mae gan ein staff arbenigedd damcaniaethol penodol yn y cyfryngau digidol, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth ac astudiaethau ffilm. Caiff addysgu yn y meysydd hyn ei lywio gan ymchwil staff a'n cryfderau hirsefydledig yn y meysydd pwnc hyn. Ar sail yr ymagweddau damcaniaethol hyn, ceir elfen ymarferol amlwg hefyd (o ran yr addysgu a lleoliadau gwaith) mewn newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, tirlun y cyfryngau digidol a gwneud ffilmiau.
CYFATHREBU A NEWYDDIADURAETH CHWARAEON MA ALl Mae'r MA mewn Cyfathrebu Chwaraeon a Newyddiaduraeth yn cyfuno astudiaeth ymarferol ac academaidd o gyfathrebu proffesiynol cyfoes, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus mewn cyd-destun sy'n gysylltiedig â chwaraeon. Mae'r rhaglen yn cynnig pum modiwl gorfodol, un modiwl dewisol a thraethawd hir neu brosiect ymarfer. Mae'r prosiect yn ymgorffori ymarfer cyfryngau a lleoliad gwaith byr i roi sgiliau cyfathrebu chwaraeon trosglwyddadwy ar waith. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Busnes a Gwleidyddiaeth y Cyfryngau Digidol • Cyfathrebu Chwaraeon – Newyddiaduraeth a Hyrwyddo • Cysylltiadau Cyhoeddus, Brandio a Hyrwyddo • Newyddiaduraeth Gymharol • Portffolio Newyddiaduraeth Ddigidol • Ymarfer Technoleg Symudol • Ysgrifennu Hyrwyddo a Phroffesiynol
CYFATHREBU, YMARFER YN Y CYFRYNGAU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS MA ALl RhA ION Mae'r rhaglen hon yn cynnig gwaith ymarferol a theori mewn sgiliau cyfryngau proffesiynol a chyfoes, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, a addysgir gan academyddion sydd â chefndir mewn diwydiant. Mae'r rhaglen yn galluogi graddedigion i ddysgu sgiliau cyfryngau a chyfathrebu proffesiynol gwerthfawr a dymunol ar gyfer gyrfaoedd ym myd busnes, cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau, darlledu, cyfathrebu, a marchnata. Mae hefyd yn galluogi gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i feithrin sgiliau a chymwysterau cyfryngau newydd a fydd yn gwella eu datblygiad proffesiynol parhaus. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Busnes a Gwleidyddiaeth Cyfryngau Digidol • Cyfathrebu Gweledol a Dylunio'r Cyfryngau • Cyfryngau Byd-Eang • Cysylltiadau Cyhoeddus, Brandio a Hyrwyddo • Gwneud Fideos a Rhaglenni Dogfen • Newyddiaduraeth Ar-Lein • Y Chwyldro Digidol • Y Fantais Ddigidol • Ysgrifennu Proffesiynol a Hyrwyddol
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. Am ragor o fanylion, ewch i: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
CYFLEOEDD LLEOLIADAU GWAITH Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau'r cyfryngau a diwydiannau cysylltiedig eraill i gynnig amrywiaeth o leoliadau cyfryngau, marchnata a chyfathrebu i'n myfyrwyr cyfryngau MA ar ein holl raglenni. Fel rheol mae'r rhain yn ychwanegol at y rhaglenni a addysgir, er, yn achos rhai myfyrwyr, gallant gael eu hintegreiddio â'u prosiect haf.
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
73
Made with FlippingBook - Online magazine maker