CAMPWS PARC SINGLETON Y CYFRYNGAU, CYFATHREBU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS
• Cysylltiadau Cyhoeddus, Brandio a Hyrwyddo, gan gynnwys ar y Cyfryngau Cymdeithasol • Prosiect MA gan gynnwys Lleoliad Gwaith • Rhyfel Digidol • Traethawd Hir • Y Chwyldro Digidol • Y Fantais Ddigidol: Materion Cyfoes mewn Cyfryngau Digidol • Ymarfer ym maes Technoleg Symudol NEWYDDIADURAETH RYNGWLADOL MA ALl RhA Mae'r MA mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol yn edrych ar newyddiaduraeth yn yr unfed ganrif ar hugain o safbwynt trawsddiwylliannol. Mae ar gyfer y rheini sydd â diddordeb mewn meithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o rôl cymdeithas fyd-eang gyfoes, ac archwilio sut mae newyddiaduraeth yn datblygu yn yr amgylchedd cyfathrebu sy'n newid yn barhaus, a nodweddir gan dechnolegau digidol. Mae'r cwrs yn darparu gwybodaeth
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o fodiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/astudiaethau- cyfryngau/astudiaethau-ol-raddedig Papur Newydd Ar-lein Adran y Cyfryngau: swanseamumbler.com hanfodol am y ffordd y mae newyddiadurwyr yn gweithredu mewn gwahanol ddiwylliannau ledled y byd, yn ogystal ag ymateb i'w diddordeb mewn astudiaethau cymharol ym maes newyddiaduraeth ac astudiaethau cyfathrebu. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyfathrebu Gweledol a Dylunio'r Cyfryngau • Cyfryngau Byd-Eang • Gwneud Fideo a Rhaglenni Dogfen • Newyddiaduraeth Gymharol • Portffolio Newyddiaduraeth Ddigidol • Rhyfel Digidol • Terfysgaeth, Gwrthdaro a'r Cyfryngau • Y Chwyldro Digidol
CYFRYNGAU DIGIDOL MA ALl RhA Mae'r rhaglen yn cynnig amrywiaeth eang o themâu, gan gynnwys hanes, busnes, gwleidyddiaeth a datblygiad y cyfryngau cymdeithasol a digidol, materion cyfreithiol, rhyfel digidol, dronau, seiberhacio, ymarfer ym maes technoleg symudol, dylunio cyfryngau digidol, newyddiaduraeth ddigidol, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a hyrwyddo ac ysgrifennu proffesiynol. Gallwch ddewis prosiect sy'n canolbwyntio ar flogiau, allbynnau yn y cyfryngau cymdeithasol a lleoliad gwaith, neu draethawd ymchwil. Mae'r rhaglen yn cynnig cipolwg cyfoes ar rai o'r prif faterion sy'n wynebu cymdeithasau heddiw, gan fanteisio ar arbenigedd ym maes y Cyfryngau a Chyfathrebu. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Busnes a Gwleidyddiaeth Cyfryngau Digidol • Cyfathrebu Gweledol a Dylunio'r Cyfryngau • Cyfryngau a Newyddiaduraeth Fyd-Eang
74
Made with FlippingBook - Online magazine maker