Caiff y cydberthnasau rhwng technoleg y cyfryngau, ffurf
Mae'r Cyfryngau a Chyfathrebu hefyd yn cael budd o grwpiau ymchwil yn archwilio newyddiaduraeth rhywedd, technoleg, rhyfel, a byd-eang, ac mae'n ymgorffori gwaith ar banig moesol a'r cyfryngau a hunaniaeth mewn gwledydd bach, gan gyfeirio'n benodol at Gymru. Gellir cyflawni eich ymchwil ôl-raddedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir staff cyfrwng Cymraeg sy'n arbenigo yn y cyfryngau yng Ngholeg y perthyn i'r Ganolfan Graddedigion yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth bugeiliol yn ogystal â chymorth gweinyddol ac mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth ym maes sgiliau ymchwil, a hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i gymuned ymchwil ôl-raddedig y Coleg o 200 o fyfyrwyr. Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil Cyfryngau a Chyfathrebu yn Mae'r adran yn gartref i'r grŵp ymchwil Canolfan y Celfyddydau Digidol a'r Dyniaethau (CODAH).
ddiwylliannol a'r newid o 'atomau i fitiau' eu harchwilio drwy amrywiaeth o ddulliau gweithredu methodolegol arloesol ynghyd â ffocws ar osod y datblygiadau hyn mewn cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol. Globaleiddio, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth a Chyfathrebu Mae'r grŵp hwn yn dwyn ynghyd arbenigedd mewn cyfryngau, newyddiaduraeth a chyfathrebu byd-eang o'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau. Mae ei gryfderau penodol ym meysydd cyfathrebu gwleidyddol a'r sylw a roddir i etholiadau, dadansoddi tueddiadau a phatrymau, y newyddion gan amrywio o'r teledu a'r radio i flogio ar-lein a'r cyfryngau cymdeithasol, a materion economaidd, busnes, ariannol a gwleidyddol. Sinema'r Byd Mae'r grŵp hwn yn dwyn ynghyd arbenigedd sylweddol o ran hanes, theori a derbyniad Sinema'r Byd ac mae'n ymwneud ag amrywiaeth o ddadansoddiadau pryfoclyd o ffilmiau, gwneuthurwyr ffilm, mudiadau a chymunedau a chenhedloedd gwylio ffilmiau mewn perthynas â hanes, llenyddiaeth, athroniaeth, cyfryngau newydd a gwleidyddiaeth. Mae'r grŵp yn cynnig arbenigedd penodol mewn sinema trawswladol, sinema mudol a sinema Dwyrain Ewrop.
ASTUDIAETHAU'R CYFRYNGAU MA drwy Ymchwil ALl RhA ASTUDIAETHAU'R CYFRYNGAU A CHYFATHREBU MPhil/PhD ALl RhA CYFRYNGAU DIGIDOL MA drwy Ymchwil/MPhil/PhD ALl RhA SGRINIO A LLWYFANNU YN EWROP MA drwy Ychwil ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil sy'n canolbwyntio ar y grwpiau ymchwil canlynol:
Hanes, Theori, Athroniaeth a Thechnoleg y Cyfryngau
Mae'r grŵp hwn yn cyfuno ymchwil i'r cysylltiad rhwng hanes, theori ac athroniaeth technoleg a newid technolegol, gan fynd i'r afael â materion allweddol yn y byd digidol byd-eang sy'n datblygu. Mae'r grŵp yn ceisio meithrin dealltwriaeth feirniadol o'r cyfryngau digidol rhwydwaith ac arferion cymdeithasol ar-lein a'u dynameg cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol er mwyn
llywio ymchwil academaidd, materion polisi ehangach a thrafodaethau cyhoeddus.
75
Made with FlippingBook - Online magazine maker