PENNAETH ADRAN: YMCHWI LYDD BLAENLLAW AR NEWID CYFLYM YN YR HINSAWDD MEDDYL IAU MAWR Yr Athro Siwan Davies
Mae Siwan Davies yn Athro mewn Daearyddiaeth ac mae’n defnyddio lludw folcanig i ddatblygu ein dealltwriaeth o pryd wnaeth ein hinsawdd newid yn sydyn yn y gorffennol. Mae hi’n wyddonydd arloesol ac wedi derbyn Gwobr Philip Leverhulme (2011) a Chronfa Lyell (2013). Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n hanu o Drefdraeth, Sir Benfro, ac ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Rhydychen, cwblhaodd radd Meistr a PhD yn y Royal Holloway, Prifysgol Llundain yn 2002. Yn dilyn penodiadau ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Stockholm a Phrifysgol Copenhagen, ymunodd â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd yn 2004 a chamodd ymlaen yn ei gyrfa academaidd yn gyflym, gan dderbyn Cadair Personol yn 2012. Mae ei hymchwil wedi sicrhau cyllid gan NERC, Ymddiriedolaeth Leverhulme a Chyngor Ymchwil Ewrop (ERC) ac mae nawr yn arwain tîm o ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr PhD. Nod prosiect ymchwil TRACE, a ariennir gan ERC, yw defnyddio haenau o ludw folcanig yng nghreiddiau iâ yr Ynys Las a chofnodion morol Gogledd yr Iwerydd i asesu p’un a wnaeth yr atmosffer neu’r cefnforoedd arwain at newid yn yr hinsawdd yn hemisffer y Gogledd yn y gorffennol. Dywedodd yr Athro Davies: “Mae hwn yn gwestiwn mawr o ran gwyddor hinsawdd a gall fy ngwaith ar ronynnau lludw microscopig roi’r atebion. Mae’r gwaith yn gyffrous ond hefyd yn heriol a dwi wrth fy modd yn ei wneud. Mae hefyd yn wefr arwain ac ysbrydoli tîm o ymchwilwyr tuag at ein nodau gwyddonol.” Mae hefyd yn cyflwyno ei gwaith i’r cyhoedd ac yn gyflwynydd cyfres ddogfen hynod lwyddiannus ar S4C sef “Her yr Hinsawdd”. Mae Siwan wedi teithio ledled y byd i weld effaith newid yn yr hinsawdd ar bobl heddiw ac mae’n parhau â’i thaith yn yr ail gyfres. Mae Siwan hefyd yn cyfrannu at addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe a ledled Cymru ac yn ymwneud â gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae fy ngwaith ar ronynnau lludw microscopig yn gyffrous ond hefyd yn heriol a dwi wrth fy modd yn ei wneud. Mae hefyd yn wefr arwain ac ysbrydoli tîm o ymchwilwyr tuag at ein nodau gwyddonol. “
79
Made with FlippingBook - Online magazine maker