Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

ECONOMEG CAMPWS Y BAE

25 AIN

YN Y DU

ANSAWDD YMCHWIL (The Complete University Guide 2020)

Mae ein cyrsiau MSc mewn economeg wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y llywodraeth neu fyd busnes, i weithio fel economegydd proffesiynol, neu i gwblhau PhD mewn economeg neu ddilyn gyrfa ymchwil. Ym myd busnes, mae economeg yn helpu i feithrin dealltwriaeth o gymhellion

a gweithredoedd cwsmeriaid, cyflenwyr, cystadleuwyr, cyflogwyr ac arianwyr. Mae'n hollbwysig o ran llywio penderfyniadau strategol a gweithredol rheolwyr a chyfarwyddwyr. Cewch eich addysgu gan arweinwyr diwydiant ac arbenigwyr ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n rhoi cyngor yn rheolaidd i sefydliadau ac asiantaethau'r llywodraeth ar ddatblygu polisïau ac ymchwil economaidd, yn ogystal â chyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion ymchwil blaenllaw. Byddwch yn cael budd o fod wedi'ch cydleoli â diwydiant ar Gampws arloesol y Bae, gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau fel Fujitsu mewn lleoliad godidog ar lan y môr.

Mae modiwlau arbenigol opsiynol yn cynnwys:

ECONOMEGMSc ALl Mae'r rhaglen hon yn cyflwyno myfyrwyr i syniadau economaidd cyfoes, gan eu helpu i feithrin dealltwriaeth drylwyr o'r agweddau craidd ar ficro a macro-economeg ac econometreg uwch, wrth hefyd gyflwyno ystod arbennig o bynciau economeg arbenigol i'w hastudio i fyfyrwyr. Gall graddedigion y rhaglen hon ddilyn nifer o lwybrau gyrfaol proffesiynol yn y diwydiannau cyllid neu ymgynghoriaeth reoli. Bydd y sgiliau trosglwyddadwy amrywiol a soffistigedig a gaiff eu meithrin ar y rhaglen hon hefyd yn fodd i gamu i mewn i ystod eang o yrfaoedd amgen ym myd masnach, diwydiant, gwasanaethau cyhoeddus ac academia. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Dulliau Ymchwil • Econometreg ION

• Economeg Ariannol • Economeg Ddatblygu • Economeg Llafur

ECONOMEG A CHYLLIDMSc ALl Mae'r cynllun ar y cyd hwn yn rhoi sylfaen gynhwysfawr i fyfyrwyr mewn perthynas â llawer o'r cysyniadau allweddol, dulliau modelu a thechnegau ymchwil a ddefnyddir ym meysydd allweddol economeg (fel micro-economeg, macro-economeg ac econometreg), sydd â chymwysiadau pwysig hefyd o fewn cyllid. Bydd y cwrs hwn o ddiddordeb arbennig os ydych yn bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant cyllid neu weithio mewn rôl sy'n gofyn am sgiliau dadansoddi lefel uwch. Mae'r gydberthynas rhwng economeg a chyllid yn un agos, gyda chyllid weithiau yn cael ei ystyried yn arbenigedd o fewn economeg. Felly, yn ogystal â'ch galluogi i archwilio pynciau o fewn y disgyblaethau cyllid ac economaidd, bydd yr agweddau amrywiol ar y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer nifer o lwybrau gyrfaol gwahanol.

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn fwy na pharod i gynnig cymorth ariannol i sêr mwyaf disglair y dyfodol. Nid dim ond rhagoriaeth academaidd a wobrwywn – rydym hefyd yn cydnabod ac yn annog angerdd dros astudio a chyfrannu at fywyd myfyrwyr. Mae amrywiaeth o gyfleoedd cyllido ar gael ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Macro-economeg • Micro-economeg • Economeg Ynni • Economeg Iechyd

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

81

Made with FlippingBook - Online magazine maker