7 FED
FFISEG CAMPWS PARC SINGLETON
YN Y DU
ADRAN FFISEG (Guardian University Guide 2020)
Dyfarnwyd bod dros 80% o'n hallbwn ymchwil ffiseg o'r radd flaenaf neu'n rhyngwladol ardderchog yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf (2014). Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn cynnwys: pelydryn positron ynni isel ag offeryniaeth benodol ar gyfer astudio positroniwm; systemau laser ton barhaus a phwlsedig, a thwnelu sganio; microsgopau optegol agosfaes a Raman. Rydym yn darparu adnoddau cyfrifiadura
perfformiad uchel drwy glystyrau ac uwchgyfrifiaduron penodedig. Mae aelodau o staff yn arwain cydweithrediad ALPHA, a leolir yn CERN, sydd â'r nod o greu, dal a manipwleiddio gwrth-hydrogen. Mae rhaglen newydd SAM, sef Sêr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn canolbwyntio ar ffiseg defnyddiau uwch ag ynni ymgorfforedig isel i'w cymhwyso mewn optoelectroneg a bioelectroneg. Y meysydd arbenigedd yw lled-ddargludyddion y genhedlaeth nesaf, defnyddiau electronig- ïonig dargludo hybrid, ffotoleoli ac ynni'r haul.
• Defnyddiau Cynaliadwy Uwch: lled-ddargludyddion y genhedlaeth nesaf, defnyddiau a dyfeisiau bioelectronig, optoelectroneg gan gynnwys ffotoleoli, trosi ynni'r haul, electro-optegau uwch a ffiseg cludo solidau anhrefnus • Nanofeddygaeth Mae'r Gr ŵ p Ffiseg Gronynnau a Theori Cosmoleg (PPCT) yn un o'r pum grŵp ffiseg gronynnau mwyaf yn y DU. Caiff ei gefnogi'n bennaf gan STFC, ond mae hefyd yn cael grantiau oddi wrth EPSRC, yr UE, y Gymdeithas Frenhinol ac Ymddiriedolaeth Leverhulme. Mae'r meysydd ymchwil yn cynnwys: • Amlderau theorïau medryddu ac uwchddisgyrchiant • Deuoliaeth medrydd/llinyn, Holograffeg sbin uwch, Natur integradwy, Theorïau medrydd N-fawr, uwchgymesuredd a deuoliaeth • Holograffeg a damcaniaethau dellt mewn ffiseg y tu hwnt i'r Model Safonol • Mater Poeth a Dwys, Cyfrifiadura Perfformiad Uchel • Meysydd cwantwm mewn gofod-amser crwm a chosmoleg ddamcaniaethol
canolbwyntio ar feysydd Ffiseg Atomaidd, Moleciwlaidd a Chwantwm (AMQP), Ffiseg Gymhwysol a Defnyddiau (APM) a Theori Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg (PPT). Cefnogir y Gr ŵ p Ffiseg Atomaidd, Moleciwlaidd a Chwantwm (AMQP) gan grantiau oddi wrth EPSRC, yr UE, y Gymdeithas Frenhinol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a ffynonellau diwydiannol a llywodraethol amrywiol. Y prif feysydd ymchwil yw: • Dynameg, Delweddu a Microsgopeg Cyflym Iawn, Optomecaneg • Ffiseg Atomau Oer • Gwrth-Hydrogen, Positroniwm a Phositronau • Sbectroscopi Laser Dadansoddol Cefnogir y Gr ŵ p Ffiseg Gymhwysol a Defnyddiau gan grantiau oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol, Cyngor Ymchwil Awstralia, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac EPSRC. Mae'r meysydd ymchwil yn cynnwys: • Bioffotoneg: Defnyddiau nano a micro-strwythuredig, biomimetigau, synhwyro analytau a rhyngweithio meinwe golau
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyllid ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. Yn ddiweddar rydym wedi sicrhau cyllid gan sefydliadau fel Cyngor Ymchwil Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) a'r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer ysgoloriaethau ôl-raddedig: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
FFISEG Mphil/PhD ALl RhA FFISEG ARBROFOL MSc drwy Ymchwil ALl RhA FFISEG DDAMCANIAETHOL MSc drwy Ymchwil ALl RhA
FFISEG GYMHWYSOL A DEFNYDDIAU MSc drwy Ymchwil ALl RhA
Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein hymchwil ar ein gwefan: a bertawe.ac.uk/ffiseg/ymchwil- ac-effaith
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
84
Made with FlippingBook - Online magazine maker