GERONTOLEG AC ASTUDIAETHAU HENEIDDIO
YN Y DU ALLBYNNAU YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 3 YDD
CAMPWS PARC SINGLETON
Mae ein rhaglenni ôl-raddedig yn dilyn dull cyfannol gan edrych y tu hwnt i'r model meddygol traddodiadol o heneiddio. Rydym yn archwilio iechyd a lles ymhlith pobl h ŷ n drwy amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys seicoleg, cymdeithaseg a demograffeg. Byddwch wedi'ch lleoli yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol (CIA), sy'n adnabyddus ledled y byd. Hon yw'r ganolfan ymchwil gerontoleg fwyaf yng Nghymru ac mae'n un o'r mwyaf yn y DU, ac mae ganddi gysylltiadau digyffelyb â llunwyr polisïau yn y Du a thramor. Mae'r CIA hefyd yn gartref i'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), sy'n mynd i'r afael â chwestiynau rhyngwladol bwysig am heneiddio a dementia. Byddwch yn cael budd o amgylchedd addysgu ac ymchwil dynamig a llawer o gyfleoedd i ffurfio cysylltiadau ar draws disgyblaethau.
GERONTOLEG AC ASTUDIAETHAU HENEIDDIOMPhil/PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys dylanwad yr amgylchedd naturiol ac adeiledig ar y boblogaeth sy'n heneiddio, a darpariaeth gofal pobl h ŷ n mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, gofal iechyd, gofal preswyl, gofal lliniarol, cyflyrau cronig, a chwympiadau a'u hatal. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr yn archwilio pynciau fel effaith ffordd o fyw ar wybyddiaeth yn ddiweddarach mewn bywyd, amgylcheddau gofal dementia, cymunedau sy'n addas i bobl h ŷ n ag anawsterau symudedd a'r broses o roi'r gorau i yrru ymhlith gyrwyr h ŷ n.
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyllid ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
86
Made with FlippingBook - Online magazine maker