Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

GWAITH CYMDEITHASOL A PHOLISI CYMDEITHASOL CAMPWS PARC SINGLETON

14 EG

YN Y DU

ANSAWDD YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021)

Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn sicrhau buddiannau gwirioneddol i ofal cymdeithasol, y sector gwirfoddol a'r sector preifat. Mae ein gwaith yn arwain at effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddwyr gwasanaethau, ymarferwyr, rheolwyr a llunwyr polisïau mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys: iechyd meddwl, cynhwysiant, lles, pobl h ŷ n, plant a theuluoedd, trefniadaeth gwasanaethau ac arferion

y gweithlu. Mae ein tîm academaidd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol uchel eu parch sydd wedi cyhoeddi gwaith yn rhyngwladol ac sy'n weithgar mewn amrywiaeth o feysydd ymchwil gan gynnwys troseddeg, gwaith cymdeithasol, daearyddiaeth ddynol, ac arwain a rheoli ymchwil. Mae ein rhaglenni wedi'u hachredu gan gyrff gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ac mae gennym gysylltiadau ardderchog ag awdurdodau lleol a sefydliadau'r sector gwirfoddol ledled y de a'r gorllewin.

Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o

GWAITH CYMDEITHASOL MSc ALl Bydd ein cwrs gradd meistr dwy flynedd achrededig mewn Gwaith Cymdeithasol yn eich galluogi i feithrin y wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i ddechrau ar yrfa llawn boddhad fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig. Byddwch yn astudio moeseg a gwerthoedd gwaith cymdeithasol, ymarfer beirniadol mewn perthynas â'r gyfraith ar gyfer gofal plant ac oedolion, a'r damcaniaethau a'r safbwyntiau allweddol sy'n sail i bolisi ac ymarfer gwaith cymdeithasol. Byddwch yn treulio hanner eich amser ar leoliad gydag asiantaethau gwaith cymdeithasol, yn dysgu drwy arsylwi ac ymarfer, a'r hanner arall yn cael eich addysgu ar gampws Parc Singleton. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi hanfodol mewn perthynas â pholisi ac ymarfer gwaith cymdeithasol ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol. Gall myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol gyflawni rhai elfennau o'r rhaglen yn Gymraeg.

adnoddau ymchwil fel cronfeydd data, meddalwedd ystadegol a rhaglenni cyfrifiadur, ac yn meithrin sgiliau ymchwil ymarferol helaeth i'w cymhwyso at amrywiaeth o gyd-destunau yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae ein hystod eang o fodiwlau dewisol yn golygu y gallwch deilwra eich astudiaethau yn unol â'ch diddordebau penodol a'ch nodau ar gyfer astudiaethau pellach. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyflwyniad i Sgiliau Ymchwilio ac Astudio • Dulliau Casglu Data • Dullai Ymchwil Ansoddol • Dulliau Ymchwil Meintiol • Moeseg ac Athroniaeth Ymchwil Gymdeithasol • Traethawd hir Gofynion mynediad Gradd 2:1 (neu uwch) yn y DU mewn pwnc yn y gwyddorau cymdeithasol. Efallai y caiff gradd mewn disgyblaeth gysylltiedig ei hystyried hefyd. Caiff ceisiadau

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

DULLIAU YMCHWIL GYMDEITHASOL MSc ALl RhA Bydd y rhaglen hon sydd wedi'i hachredu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn eich galluogi i gael hyfforddiant uwch ar amrywiaeth o ddulliau ymchwil ansoddol a meintiol a ddefnyddir yn y gwyddorau cymdeithasol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o foeseg a llywodraethu ymchwil, ac yn dysgu am bryderon ymchwil damcaniaethol ar draws y sbectrwm o disgyblaethau'r gwyddorau cymdeithasol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyllid ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

eu hystyried os oes gennych o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol.

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

87

Made with FlippingBook - Online magazine maker