YMCHWI L .
GWEITHGYNHYRCHU SMART Rydym yn gweithio ar y cyd â chwmnïau blaenllaw i sicrhau newid ystyrlon, a gwella cystadleurwydd a chynhyrchedd byd-eang. Mae ein hymchwilwyr yn chwilio am y dulliau mwyaf effeithlon a chynhyrchiol ar gyfer gweithgynhyrchu yn gynaliadwy, gan greu gwerth mewn ffyrdd arloesol. Mae Prifysgol Abertawe yn arwain y prosiect ASTUTE 2020, gan gydweithio â’r diwydiant gweithgynhyrchu ledled Cymru er mwyn arloesi drwy ymchwilio i dechnolegau uwch newydd a symleiddio prosesau. Rydym ar flaen y gad wrth ddatblygu newid mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, o beirianneg maes awyrofod a maes cerbydau i weithgynhyrchu diwydiannol. Rydym wedi trawsnewid cyflymder dylunio aerodynamig, gan helpu i greu car uwchsonig 1000mya cyntaf y byd, a datblygu cynnyrch metal wedi’u caenu ym maes adeiladu gyda gwarant gwrthgyrydu o 40 o flynyddoedd. Mae’n hymchwil o hyd yn esblygu ac yn datblygu technolegau, deunyddiau a dulliau er mwyn helpu i gynnal a gwella economïau a’r amgylchedd.
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ gweithgynhyrchu-clyfar
YMCHWI L .
DYFODOL CYNALIADWY, YNNI A’R AMGYLCHEDD
Mae’n hymchwilwyr yn ymdrechu i ganfod atebion i heriau byd-eang enfawr ein hoes. Mewn cydweithrediad â phartneriaid ledled y byd, mae Prifysgol Abertawe yn gweithio i warchod ein planed i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn gweithio i drawsnewid y ffordd rydym yn byw drwy greu adeiladau sy’n gallu creu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain drwy ddefnyddio’r haul. Rydym wedi datblygu’r dechnoleg i waredu hanner biliwn o dunelli o garbon bob blwyddyn drwy ddal a newid carbon deuocsid, gan wrthbwyso allyriadau carbon byd-eang. Yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, rydym yn darganfod ac yn gweithredu technoleg newydd ar gyfer dyfodol ynni cynaliadwy, fforddiadwy a diogel i bawb. Rydym yn datblygu atebion i’r argyfwng plastig, gan ddod o
hyd i ddefnydd ar gyfer plastig na ellir ei ailgylchu a’i drawsnewid yn hydrogen gall hynny bweru trafnidiaeth a diwydiant mewn ffordd lân a chynaliadwy. Mae’n hymchwil wedi gwarchod ardaloedd y mae tanau gwyllt yn effeithio arnynt rhag erydu difrifol. Rydym wedi trawsnewid ein dealltwriaeth o symudiadau, mudo ac ymddygiad anifeiliaid. Ac ar yr Ynys Las, mae’n hymchwilwyr yn gweithio yn yr orsaf wyddonol ryngwladol i ddrilio’n ddwfn i’r iâ i ddeall hanes yr hinsawdd er mwyn amddiffyn dyfodol y blaned. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn mynd i’r afael â phroblemau heddiw, gyda syniadau yfory.
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ dyfodol-cynaliadwy
07
Made with FlippingBook - Online magazine maker