“
Cefais swydd yn syth ar ôl cwblhau MSc mewn Gwaith Cymdeithasol, yn ogystal â dysgu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i symud yn hyderus i amrywiaeth eang o leoliadau, o ofal plant i iechyd meddwl. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i astudio a dechrau gyrfa newydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol oedolion, a mwynheais y cwrs cyfan. Mwynheais astudio moeseg a gwerthoedd yn benodol. Fe'm helpodd i fynegi fy ngwerthoedd fy hun, i gyfiawnhau fy mhenderfyniadau fy hun ac i gwestiynu penderfyniadau eraill yn fwy hyderus. Roedd y cwrs yn cynnwys cydbwysedd cyfartal rhwng astudio yn yr ystafell ddosbarth a chyfleoedd i ddysgu ar leoliad gwaith. Rhoddodd hyn y cyfle i mi ddatblygu ystod o sgiliau ymarferol a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol angenrheidiol i ymarfer yn hyderus. Rhoddwyd pwyslais cryf ar ymarfer myfyriol a'm galluogodd i weld sut roedd yr elfennau hyn yn cydblethu yn ogystal ag ystyried sut y gallai fy ngwerthoedd personol gael effaith ar fy ymarfer. Ysgrifennu fy nhraethawd estynedig oedd y profiad mwyaf heriol yn ôl pob tebyg, ond yr un mwyaf gwerth chweil hefyd. Dysgais werth dyfalbarhad a chadw meddwl agored, a sbardunwyd diddordeb mewn cynnal ymchwil bellach yn y dyfodol drwy hyn. Yn bendant byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill. Mae'n Brifysgol gyfeillgar sydd â staff cefnogol.
MSc GWAITH CYMDEITHASOL
88
Made with FlippingBook - Online magazine maker