Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CAMPWS PARC SINGLETON GWAITH CYMDEITHASOL A PHOLISI CYMDEITHASOL

Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyflawni a Defnyddio Ymchwil Gwaith Cymdeithasol ar gyfer Ymarfer • Damcaniaethau a Safbwyntiau ar gyfer Llywio Gwaith Cymdeithasol • Moeseg a Gwerthoedd mewn Gwaith Cymdeithasol • Sgiliau a Gwybodaeth Gwaith Cymdeithasol a Safbwyntiau Defnyddwyr Gwasanaethau • Sgiliau a Gwybodaeth Gwaith Cymdeithasol ar Waith • Traethawd hir • Ymarfer Beirniadol mewn perthynas â Gofal Plant a'r Gyfraith Gofynion mynediad Gradd (2:2 neu uwch) yn y DU mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig â gwaith cymdeithasol/gwyddor cymdeithasol, yn ogystal â gradd TGAU A*-C mewn Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg neu gymwysterau cyfatebol. Bydd angen i chi ddangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol a bod wedi gweithio neu gael profiad gwaith gwerth o leiaf 455 o oriau ym maes gofal cymdeithasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Gall hyn gynnwys gwaith gwirfoddol neu â thâl mewn gofal cymdeithasol gydag unigolion, grwpiau neu gymunedau.

GWAITH CYMDEITHASOL A GOFAL CYMDEITHASOL MPhil/PhD ALl RhA Mae ein graddedigion ymchwil yn meithrin gwybodaeth hanfodol newydd am ddatblygiadau sy'n gwasanaethau, gan fynd i'r afael â chanlyniadau cymdeithasol fel ansawdd bywyd, cynhwysiant cymdeithasol a mesurau cyfalaf cymdeithasol. IECHYDMEDDWL MPhil/PhD ALl RhA Er mwyn datblygu a gwerthuso gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu pobl ar adegau anoddaf eu bywyd, rhaid cael ymchwil o safon uchel. Ar hyn o bryd mae myfyrwyr yn edrych ar ymarfer seiliedig ar effeithio ar y gweithlu gofal cymdeithasol a darpariaeth dystiolaeth mewn iechyd meddwl (yn enwedig gwasanaethau ymyriadau cynnar), cydlynu gofal mewn gofal iechyd meddwl fforensig a dylanwad cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau wrth ddatblygu rôl broffesiynol. POLISI CYMDEITHASOL MSc drwy Ymchwil/MPhil/PhD ALl RhA Yr hyn sydd ei angen ar fodau dynol a'r ffordd y mae cymdeithasau'n diwallu'r anghenion hynny sydd wrth wraidd polisi cymdeithasol. Mae ein gwaith ymchwil yn mynd i'r afael â materion cymdeithasol allweddol o safbwyntiau cenedlaethol a rhyngwladol, gan archwilio themâu fel cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, tegwch a dinasyddiaeth.

Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil. CYMDEITHASEGMPhil/PhD ALl RhA Adeiladwch eich diddordeb mewn cymdeithaseg gan ymestyn eich gwybodaeth mewn amgylchedd ymchwil deinamig, gyda ffocws cryf ar hyfforddiant ymchwil. Gall ein staff gynnig goruchwyliaeth ar draws ystod eang o themâu a dulliau ymchwil gwyddorau cymdeithasol. Mae eu gwaith yn adlewyrchu egwyddorion cyffredin o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb ac amrywiaeth fel sail i lesiant dynol. Mae'n hymchwil yn chwarae rhan hanfodol mewn meysydd deallusol sy'n dod i'r amlwg ac yn newydd ac yn mynd i'r afael â'r ystod ehangaf o dueddiadau, problemau a chyfyng-gyngor byd cymdeithasol sy'n newid yn gyflym.

89

Made with FlippingBook - Online magazine maker