Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF CAMPWS Y BAE

YN Y DU ANSAWDD YMCHWIL (Times & Sunday Times University Guide 2020) 9 FED

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf (2014), rydym yn y 5ed safle yn y DU am effaith ymchwil ac yn y 15fed safle am ansawdd ymchwil cyffredinol. Barnwyd bod 72% o'n hymchwil o'r radd flaenaf (4%) neu'n rhyngwladol ardderchog (3%). Mae gennym gysylltiadau sefydledig â sefydliadau a phartneriaid masnachol fel Diabetes UK, y Sugar Bureau, Haemair, Haemaflow Ltd, Chwarae Cymru, Ymddiriedolaethau GIG Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Undeb Rygbi Cymru, yr Uwch Gynghrair, ac Abertawe Actif. Rydym hefyd yn gweithio gyda thimau chwaraeon elitaidd gan gynnwys UK Sport, Clwb Pêl-droed Abertawe, y Sgarlets, tîm rygbi Biarritz, y Gweilch, tîm rygbi saith bob ochr Cymru, corff nofio Prydain, a chorff bobsledio Prydain. Mae ein staff yn darparu gwasanaethau ymgynghorol rheolaidd mewn lleoliadau ymarfer corff ym maes clefydau cronig, gan gynnwys diabetes, adsefydlu cardiaidd a gofal yr arennau.

Caiff myfyrwyr hyfforddiant sy'n eu galluogi i nodi materion moesegol, meddwl yn foesol, a throsi penderfyniadau yn weithredoedd moesol – y tair sgil graidd sydd eu hangen i ddatblygu uniondeb chwaraeon. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Dulliau a Sgiliau Ymchwil • Gallu, Anabledd ac Uniondeb Chwaraeon • G werthoedd Chwaraeon, Chwarae Teg ac Uniondeb • Llywodraethu, y Gyfraith ac Uniondeb Chwaraeon • Moeseg, Polisi ac Ymarfer Gwrth- ddopio • Olympiaeth a'r Mudiad Olympaidd • Rheoli Chwaraeon ac Uniondeb Chwaraeon • Saesneg Uwch ar gyfer Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

GWYDDOR CHWARAEON MSc drwy Ymchwil/MPhil/PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'n meysydd o arbenigedd ymchwil mewn chwaraeon elitaidd a phroffesiynol, ymarfer corff, meddygaeth ac iechyd neu foeseg chwaraeon, uniondeb a llywodraethu. Ymhlith y themau ymchwil MSc drwy Ymchwil diweddar mae: • Delweddu Sgiliau Symudiad Sylfaenol (FMS): Proses Iterus gan Ddefnyddio Tafliad Tros Ysgwydd • Proffilio Corfforol a Ffisiolegol ym maes Rygbi Menywod Elît • Deall anghymesureddau niwrogyhyrol rhannau isaf y corff mewn athletwyr Undeb Rygbi

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyllid ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

MOESEG AC UNIONDEB CHWARAEONMA ALl Mewn ymateb i'r argyfwng

byd-eang o ran uniondeb chwaraeon, mae'r cwrs hwn yn torri tir newydd ym maes gweinyddu a llywodraethu chwaraeon. Bydd y MAiSI yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd lefel uchel ym maes gweinyddu a llywodraethu chwaraeon, gyda ffocws ar chwaraeon moesegol, uniondeb a chydymffurfiaeth.

• Theori Foesegol, Moeseg Chwaraeon ac Uniondeb Chwaraeon

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

91

Made with FlippingBook - Online magazine maker