Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

YN Y DU AMGYLCHEDD YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 1 AF

CAMPWS PARC SINGLETON GWYDDORAU MEDDYGOL A BYWYD

Yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sef un o brif ganolfannau'r DU am ymchwil feddygol sydd ymhith y deg uchaf yn y DU am feddygaeth, ansawdd ymchwil ac amgylchedd ymchwil yn gyson, rydym yn cynnig cyfleoedd rhagorol i ôl-raddedigion yn y gwyddorau meddygol yn ogystal â meddygaeth a gofal iechyd. P'un a ydych yn dewis dilyn cwrs gradd ôl-raddedig er mwyn dilyn eich diddordebau, gwella eich gyrfa neu newid cyfeiriad, mae ein fframwaith modiwlaidd yn eich galluogi i astudio'n llawn amser neu'n rhan amser, ar-lein, ar y campws neu drwy gyfuniad o'r rhain. Gall ein myfyrwyr, ein hymchwilwyr a'n partneriaid fanteisio ar arbenigedd ymchwilwyr ac addysgwyr rhyngwladol yr Ysgol a chael budd o gyfleusterau ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf, gan gynnwys y Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth miliynau o bunnau, y Ganolfan NanoIechyd a'r Adeilad Gwyddor Data.

• Efelychu ar Raddfa Nano • Ffiseg Radiotherapi • Meddygaeth Niwclear a Delweddu Diagnostig • Prosiect Ymchwil

FFISEG YMBELYDREDD MEDDYGOL MSc ALl RhA ION Mae'r cwrs MSc mewn Ffiseg Ymbelydredd Meddygol wedi'i gynllunio i sicrhau bod graddedigion peirianneg a gwyddorau ffisegol yn meithrin y wybodaeth ddamcaniaethol angenrheidiol a dealltwriaeth o agweddau sylfaenol ar y defnydd o ymbelydredd mewn meddygaeth. Mae'r rhaglen yn manteisio ar ymarfer clinigol drwy hyfforddiant ymarferol ar ddefnyddio'r cyfarpar a ddefnyddir yn rheolaidd mewn ysbytai, gan gynnwys cyfleusterau MRI a CT o'r radd flaenaf, a chyflymyddion unionlin meddygol, a fydd yn eich paratoi ar gyfer hyfforddiant clinigol neu ymchwil yn y maes hwn sy'n newid yn gyflym. Mae hefyd yn cynnwys modelu cyfrifiadurol, methodoleg ymchwil a'r dimensiynau moesegol sy'n gysylltiedig ag ymchwil feddygol. Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg ym maes Meddygaeth (IPEM). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Amddiffyn rhag Ymbelydredd • Delweddu Meddygol • Diogelwch Ymbelydredd Uwch • Dulliau Ymchwil

• Radiotherapi Uwch Gofynion mynediad

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

Fel arfer gradd anrhydedd 2:2 neu'r hyn sy'n cyfateb iddi mewn peirianneg neu'r gwyddorau ffisegol. GWYBODEG IECHYD PGCert/ PGDip/MSc ALl RhA ION Mae polisïau'r llywodraeth, cyrff proffesiynol a strategaethau Ewropeaidd oll wedi cyfeirio'n benodol at yr angen i gael staff gofal iechyd sydd wedi cael addysg a hyfforddiant ar wybodeg iechyd er mwyn cyd-fynd â'r datblygiadau newydd a natur newidiol technoleg newydd. Mae'r rhaglen hon ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r rheini sydd am feithrin eu gwybodaeth a'u sgiliau ym maes gwybodeg iechyd, ac a achredir gan Gyngor Proffesiynau Gwybodeg Iechyd y DU (UKCHIP). Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Arweinyddiaeth wrth Reoli Prosiectau • Cyfathrebu a Chodio • Defnyddio Data Iechyd Eilaidd

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyllid ar gyfer graddau ymchwil a graddau a addysgir. Am ragor o fanylion, ewch i: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Rydym yn cydweithio'n agos â'n partneriaid yn y GIG ac mewn diwydiant i gynnig amgylchedd dysgu DPP bywiog ac arloesol er mwyn diwallu anghenion unigolion a busnesau gan ddilyn dull hyblyg o weithredu. Am ragor o fanylion, ewch i: abertawe.ac.uk/y-brifysgol/ colegau/ysgol-feddygaeth- prifysgol-abertawe/dpd

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

93

Made with FlippingBook - Online magazine maker