Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

GWYDDORAU MEDDYGOL A BYWYD CAMPWS PARC SINGLETON

• Gwybodeg Iechyd mewn Cyd-destun • Rheoli Gwybodaeth • Systemau a Thechnolegau • Traethawd Ymchwil neu Bortffolio Prosiect Seiliedig ar Waith • Ymchwil Gwybodeg Iechyd Gofynion mynediad Croesewir ymgeiswyr â dwy flynedd o gyflogaeth berthnasol, yn ogystal â graddedigion disgyblaeth berthnasol â gradd anrhydedd 2:2, neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig.

Mae'r cwrs hwn, a lywiwyd gan Addysg Iechyd Lloegr, GIG Lloegr a Genomig Lloegr Ltd, yn paratoi graddedigion, gwyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddeall a dehongli data genomig er mwyn llywio ymchwil wyddonol ac ymarfer clinigol er mwyn gwella gofal cleifion yn y pen draw. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Biowybodeg • Clefydau Heintus, Prin ac Etifeddol • Diagnosio, Sgrinio a Thrin Canser • Dysgu Peiriant mewn Gofal Iechyd • Geneteg Ddynol a Genomeg • Materion Moesegol, Cyfreithiol a Chymdeithasol • Prosiect Ymchwil sy'n seiliedig ar waith labordy neu adolygiad o lenyddiaeth Fel arfer gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc perthnasol megis biocemeg, geneteg, ffarmacoleg, fferylliaeth, biowyddorau meddygol neu nyrsio. NANOFEDDYGAETH PGCert/PGDip/ MSc ALl RhA ION Mae'r rhaglen arloesol hon yn cyfuno dull gweithredu amlddisgyblaethol nanodechnoleg a gwyddor feddygol sy'n addo dwyn datblygiadau sylweddol wrth ddiagnosio, trin ac atal clefyd. Mae'r cwrs hwn yn addas i raddedigion â phrofiad o ddisgyblaethau bioleg, gwyddorau bywyd neu beirianneg sydd am feithrin eu dealltwriaeth o gymhwyso nanodechnoleg i feddygaeth a chael hyfforddiant ar ddylunio ac ymarfer arbrofol mewn pwnc ymchwil newydd. Mae modiwlau'n cynnwys: • Dadansoddi Data ar gyfer Iechyd • Technegau 'Omic' Gofynion mynediad

Gofynion mynediad Fel arfer gradd anrhydedd 2:2 neu'r hyn sy'n cyfateb iddi mewn peirianneg neu'r gwyddorau ffisegol. GWYDDOR DATA IECHYD MSc/ PGDip/PGCert ALl RhA ION Mae gofal iechyd, sydd eisoes â chydberthynas gref sefydledig â Thechnolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), yn parhau i ehangu'r sail wybodaeth wrth i ddulliau newydd o gael gafael ar ddata ar iechyd pobl gael eu datblygu. Gwaith gwyddonwyr data iechyd yw prosesu'r data hyn er mwyn echdynnu gwybodaeth werthfawr am boblogaeth (cymwysiadau epidemiolegol) neu'r unigolyn (cymwysiadau gofal iechyd personol). Gall eu gwaith wella ansawdd bywyd ar raddfa fawr. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Biowybodeg ar gyfer Dadansoddi Genomau • Cyfrifiadura Gwyddonol a Gofal Iechyd • Dadansoddi Data Iechyd Cysylltiedig • Delweddu Data Iechyd • Dysgu Peirianyddol mewn Gofal Iechyd • Modelu Data Iechyd • Traethawd Hir ar bwnc gwyddor data iechyd perthnasol Gofynion mynediad Croesewir ymgeiswyr â dwy flynedd o gyflogaeth berthnasol, yn ogystal â graddedigion disgyblaeth berthnasol â gradd anrhydedd 2:2, neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig. MEDDYGAETH GENOMIG PGCert/ PGDip/MSc ALl RhA ION Comisiynwyd y cwrs MSc mewn Meddygaeth Genomig gan Lywodraeth Cymru fel rhan o strategaeth Cymru gyfan i ddarparu hyfforddiant ar Genomeg.

GWYDDONIAETH GLINIGOL (FFISEG FEDDYGOL) MSc RhA

Mae'r rhaglen MSc Gwyddoniaeth Glinigol yn adeiladu ar y ffordd rydym yn cydweithio â'r GIG ar hyn o bryd i ddarparu'r prif lwybr i ennill y teitl proffesiynol Gwyddonydd Clinigol ym maes Ffiseg Feddygol. Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan y GIG a rhydd elfen academaidd Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr ar gyfer ffisegwyr meddygol dan hyfforddiant, o fewn y fframwaith Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol a ddiffinnir gan Adran Iechyd y DU, ac mae'n cynnig y cyfle i fyfyrwyr arbenigo mewn ffiseg radiotherapi neu ddiogelwch ymbelydredd. Dim ond ar gyfer hyfforddeion a noddir gan un o ddarparwyr gofal iechyd y GIG neu ddarparwr gofal iechyd cyfatebol y mae'r radd meistr hon yn addas. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyflwyniad i Wyddoniaeth Glinigol • Delweddu Meddygol • Diogelwch Ymbelydredd • Diogelwch Ymbelydredd Arbenigol • Diogelwch Ymbelydredd Uwch • Dulliau Ymchwil • Ffiseg Radiotherapi • Meddygaeth Niwclear a Delweddu Diagnostig • Radiotherapi Arbenigol • Radiotherapi Uwch

a Gwyddorau Meddygol • Diagnosteg a Delweddu • Dylunio Ymchwil a Moeseg

94

Made with FlippingBook - Online magazine maker