IAITH SAESNEG, TESOL AC IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL
Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/diwylliant-cyfathrebu am yr wybodaeth ddiweddaraf.
CROESO
Croeso cynnes i Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o academyddion at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis o yrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.
Cyfleoedd Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant Cyfleoedd Semester Tramor Cymhwyster Proffesiynol a Gydnabyddir yn Rhyngwladol: CELTA RYDYM YN CYNNIG:
Cyfathrebu a Gwaith Tîm Sgiliau Cyflwyno Sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau SGILIAU I’W CAFFAEL:
MAE EIN MYFYRWYR:
Yn cael eu harfogi â sgiliau ar gyfer gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad. Yn elwa ar gymorth ac arweiniad helaeth. Yn cael eu cynnwys yn weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol
Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
IAITH SAESNEG, TESOL AC IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL Nod ein graddau Ieithyddiaeth Gymhwysol, Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) yw datod dirgelion iaith, dadansoddi sut mae cymdeithasau yn cyfathrebu, a phontio’r bwlch rhwng theori ac ymarfer. Nid ydynt yn ymwneud â llyfrau yn unig, ond deall sut mae iaith yn llunio ein byd. Mae cyfle i astudio Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu Saesneg i Oedolion (CELTA). Dyma gymhwyster addysgu ymarferol, a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n cynnwys 6 awr o ymarfer addysgu wedi’i arsylwi. Yn amodol ar broses gyfweld a gradd 2:1 ar gyfartaledd ym Mlwyddyn 1, gall myfyrwyr sy’n cael eu derbyn i CELTA gwblhau’r cymhwyster hwn ar ffurf modiwl yn yr ail flwyddyn, neu gallwch astudio ein gradd BSc arloesol sy’n mabwysiadu ymagwedd fwy technegol at Ieithyddiaeth Gymhwysol.
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/iaith-saesneg-tesol- ieithyddiaeth-gymhwysol I gael rhagor o wybodaeth, sganiwch y cod QR neu ewch i’n gwefan
EIN GRADDAU
Q310 Q311 Q31I Q312
Iaith Saesneg, BA (Anrh) Iaith Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Iaith Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae astudio Iaith Saesneg yn Abertawe yn eich helpu i archwilio sut mae iaith yn gweithio a sut mae cymdeithasau’n cyfathrebu. Bydd arbenigwyr yn y maes yn eich helpu i ddatblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol a byddwch yn dysgu cyflwyno eich syniadau mewn amryw fformat, ynghyd â datblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cadarn. Mae’r radd BA (Anrh.) Iaith Saesneg yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau i chi ddewis o’u plith, fel y gallwch deilwra eich astudiaethau yn ôl eich diddordebau.
Q100 Q112 Q10I
Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, BSc (Anrh) Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae’r BSc mewn Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth gymhwysol yn rhoi sylfaen gadarn i raddedigion mewn dadansoddi iaith, meddwl beirniadol a sgiliau ymchwil. Bydd yn hyfforddi myfyrwyr ar ddadansoddi iaith a defnydd iaith perthnasol i ddiwydiant, gan gynnwys cyfathrebu gofal iechyd, deallusrwydd dynol-beirianyddol, datblygiad llythrennedd ac iaith mewn ysgolion, llunio polisïau yn gysylltiedig ag iaith, a dadansoddi fforensig mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol. Mae’r radd BSc yn cynnwys ymagweddau a dulliau ystadegol, cyfrifiannol a gwyddonol.
QQ31 QQ33 QQ3I
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Bydd astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o iaith a llenyddiaeth Saesneg a sut mae cysylltiad annatod rhwng llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a hanes. Byddwch yn darganfod sut rydym ni’n caffael iaith, sut mae iaith yn gweithio a sut mae cymdeithasau wedi cyfathrebu, o Beowulf hyd heddiw. Cewch gyfle i astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, gan gynnwys llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a genre, llenyddiaeth y 19eg ganrif, ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu proffesiynol.
PQ91 PQ00 PQ9I
Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Os yw dysgu mwy am Iaith Saesneg a’i defnydd yn y cyfryngau o ddiddordeb i chi, neu os ydych chi’n ystyried gyrfa yn niwydiant y cyfryngau, gallai’r BA (Anrh.) mewn Iaith Saesneg a’r Cyfryngau fod yn ddelfrydol i chi. Mae’r cwrs yn dechrau trwy roi sylfaen i chi yng nghyfathrebu’r cyfryngau, hanes yr iaith Saesneg, addysgu iaith a methodoleg cyn i chi ddewis modiwlau sy’n gweddu i’ch diddordebau chi, a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio’n fanwl ar y prosiect ymchwil o’ch dewis ar gyfer eich traethawd hir terfynol. Mae’r cwrs hefyd yn archwilio ymarfer cyfryngau creadigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys cynhyrchu radio a fideo, cyfryngau digidol a chymdeithasol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a marchnata. Mae rhai modiwlau ar gael yn Gymraeg, hefyd.
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
QX33 QX00
Nod y cwrs BA (Anrh.) Iaith Saesneg a TESOL ym Mhrifysgol Abertawe yw rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o’r iaith Saesneg a sut y gellir ei defnyddio i addysgu Saesneg fel ail iaith neu iaith dramor (ESL/ EFL). Byddwch yn dysgu am theori ac ymarfer TESOL, ynghyd â’r dulliau a’r ymagweddau gwahanol ar gyfer addysgu Saesneg. Hefyd, gallech astudio ar gyfer CELTA, sef cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu Saesneg fel iaith dramor, sy’n borth i addysgu dramor. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn dysgu am theori ac ymarfer, methodoleg addysgu iaith, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dadansoddiad disgwrs. Hefyd, cewch hyfforddiant ar ddulliau ymchwil, gan gynnwys adrodd a dadansoddi data, a chewch ddefnyddio ein labordy iaith gyda’n technoleg synhwyro fodern sy’n olrhain y llygaid.
QXH3 QX01
Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
QXHI
Archwiliwch dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o’r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, ochr yn ochr â TESOL, a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i chi addysgu Saesneg fel ail iaith. Dysgwch am fethodoleg addysgu iaith, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dadansoddiad disgwrs.
Hefyd, mae cyfle i ennill y cymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol, CELTA (Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu Saesneg i Oedolion), i athrawon Saesneg fel iaith dramor.
CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau a ragwelir, cyfeirnod a chymysgedd o bynciau i osod telerau pob cynnig. Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg ac arweiniad. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad eich cwrs penodol:
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/iaith-saesneg-tesol-ieithyddiaeth-gymhwysol
TEITL Y CWRS
SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL
BAGLORIAETH RYNGWLADOL
CYNNIG BTEC CYFATEBOL NODWEDDIADOL
TGAU NEU GYFWERTH
IAITH SAESNEG, BA (Anrh)*
N/A
ABB-BBC
DDM-DMM
31-33
IAITH SAESNEG AC IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL, BSc (Anrh)*
IAITH A LLENYDDIAETH SAESNEG, BA (Anrh)* IAITH SAESNEG A’R CYFRYNGAU, BA (Anrh)* IAITH SAESNEG AC ADDYSGU SAESNEG I SIARADWYR IEITHOEDD ERAILL, BA (Anrh)* LLENYDDIAETH SAESNEG AC ADDYSGU SAESNEG I SIARADWYR IEITHOEDD ERAILL, BA (Anrh)*
*gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, neu hebddo
• Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, gyda thri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. • Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ystyried pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@abertawe.ac.uk .
MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi o’r hyn y gallech ei astudio ar ein gradd Graddau Iaith Saesneg, TESOL, Ieithyddiaeth Gymhwysol . Mae pob gradd yn cynnig modiwlau amrywiol. Ewch i’n gwefan i weld yr opsiynau manwl sydd ar gael i chi o fewn eich cwrs. Mae rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol i’w gweld yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/iaith-saesneg-tesol-ieithyddiaeth- gymhwysol
GRADDAU IAITH SAESNEG, TESOL, IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
System Sain y Saesneg MODIWLAU GORFODOL
ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU DEWISOL
Methodoleg Addysgu Iaith
Chwalwyr chwedlau: credoau a gwirioneddau am iaith Hanes yr Iaith Saesneg
Iaith mewn Meddwl
Gramadeg ac Ystyr
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
CELTA MODIWLAU DEWISOL
Dulliau ac Offer Ymchwilio Seicoieithyddiaeth Dwyieithrwydd
Sosio-ieithyddiaeth
Geirfa Ail Iaith
Iaith a Llythrennedd Plant
Gweithio gydag Ymarferwyr
Addysgu Iaith mewn Cyd-destun
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Traethawd Hir MODIWLAU DEWISOL
Iaith yn y Cyfryngau
Caffael Ail Iaith
Materion mewn ELT cyfredol Ieithyddiaeth Fforensig
Arddulliau
Technolegau Iaith
Polisi a Chynllunio Iaith
Gallai dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudio gofynnol ar lefel is. Mae rhai modiwlau yn orfodol ar gyfer rhai graddau yn unig. Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea.ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen .
CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Mae cyflogadwyedd yn ysytyriaeth bwysig yn ystod eich astudiaethau, ac yn rhywbeth sy’n cael ei hyrwyddo’n gyson. Mae gan y tîm hanes o sicrhau swyddi I fyfyrwyr, ac maen nhw’n cynnig cymorth i fyfyrwyr hyd at bum mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:
Ceisiadau Diwrnodau blasu Interniaethau
Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio
Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr, er enghraifft:
• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth wedi’i bersonoli. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.
GYRFAOEDD DYFODOL YN Y IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL
Y Cyfryngau Darlledu Y Gwasanaeth Sifil Addysg ac Addysgu Dylunio Deunyddiau Saesneg fel Iaith Dramor
Marchnata Gweinyddu ac Arwain Prosiectau Cyhoeddi Therapi Iaith a Lleferydd
Darllenwch fwy am brofiad Rachel yma:
Ces i’r cyfle i gymryd rhan mewn Interniaeth â Thâl Prifysgol Abertawe (SPIN) yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), lle gwnes i grynhoi erthyglau
am bynciau amrywiol fel heneiddio, ymarfer corff a diagnosau o glefyd Alzheimer. Mae’r crynodebau ar gael ar wefan CADR. Gwnes i feithrin sgiliau gan gynnwys gweithio mewn amgylchedd proffesiynol, egluro ymchwil empirig mewn termau symlach, a golygu fy ngwaith yn unol ag adborth. Byddwn i’n argymell SPIN i unrhyw fyfyrwyr sydd am ehangu eu gwybodaeth am bynciau a gwella eu dealltwriaeth o ymchwil wrth ennill cyflog.
RACHEL COOPER Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, BSc
BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Mae modd i chi deithio i Ogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia. Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor, byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol
letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global) hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i cwrs arferol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith
Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Astudiais ym Mhrifysgol Genedlaethol Pusan yn Busan, De Korea ar gyfer fy mlwyddyn dramor. Heblaw astudio, fe wnes i hefyd deithio o gwmpas Korea gyda’r ffrindiau gydol oes y gwnes i tra mod i yno. Fy hoff amser yn Korea yn sicr oedd gwyl y blodeuo ym mis Mawrth. Roedd gweld cymaint o goed prydferth yn eu blodau, hyd yn oed o gwmpas y campws, mor anhygoel. Trwy astudio, dysgais sut i fod yn fwy hyderus ynof fi fy hun a bod yn fwy cymdeithasol, oherwydd mewn llawer o sefyllfaoedd, fi oedd yr unig dramorwr yn fy nosbarth, a oedd yn eithaf brawychus i ddechrau. Ond fe ddes i dros hynny a gwneud llawer o ffrindiau tra roeddwn i yno! Dysgais i lawer amdanaf fy hun drwy’r flwyddyn dramor hon a byddwn i’n annog unrhyw un i gymryd rhan petaen nhw’n cael y cyfle! ˆ
ABBIE CAMPFIELD Blwyddyn Dramor: Prifysgol Genedlaethol Pusan yn Busan, De Korea
BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.
Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir. MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.
Bu’n daith anhygoel cael cymaint o ddarlithwyr cefnogol a chyfoedion anhygoel wrth fy ymyl i. Roedd digonedd o adnoddau a chefnogaeth gan fy nghwrs, a wnaeth i gyd gyfrannu ataf yn ennill gradd dosbarth cyntaf. Y tu hwnt i academia, bues i’n gweithio fel cydlynydd prosiect gwirfoddol i Discovery; llysgennad myfyrwyr; crëwr cynnwys; ac fe wnes i chwarae rhan flaenllaw yn y cymunedau creadigol lleol, gan gynnwys diwydiannau cerddoriaeth a ffilm.
LAN WEI Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Saesneg-Tsieineaidd, BA (Anrh)
PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:
EFFAITH GYMDEITHASOL 100 YN Y UCHAF
Mae llawer o fwrlwm yng nghymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau sesiynau gydag anifeiliaid egsotig, cyfleoedd i ddysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio drwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau celf a chrefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!
IECHYD A LLES
Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i
wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol ac yn ysgogi newid. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Hunan Ofal: Mae hunan ofal yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr mewn modd gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn.
CYMDEITHASAU
CLWB LLYFRAU
IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL
CYMDEITHAS FFILM
SAESNEG
Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies
CYFLEUSTERAU
Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o gyfleusterau anhygoel yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys: YSTAFELLOEDD DYSGU GYDA CHYMORTH TECHNOLEG AC YSTAFELL GLYWELED CYFIEITHU AR Y PRYD GWBL GYFARPAREDIG GYDA MEDDALWEDD CYFIEITHU DIWEDDARAF Y DIWYDIANT Mae sgriniau cyffwrdd a thechnoleg cipio darlithoedd wedi’u gosod yn yr ystafell ddysgu, felly gallwch ailedrych ar unrhyw rai o’ch darlithoedd ar-lein. Yn yr ystafell glyweled cyfieithu ar y pryd, gall myfyrwyr efelychu profiadau cyfieithu ‘bywyd go iawn’ a datblygu eich sgiliau cyfieithu proffesiynol. TECHNOLEG SYNHWYRO FODERN SY’N OLRHAIN Y LLYGAID Gall y dechnoleg fodern hon helpu myfyrwyr i ddeall prosesau gwybyddol dynol a, hefyd, patrymau sylw ac ymddygiadol cyfranogwyr. CANOLFAN GWAITH CARTREF MYFYRWYR I FYFYRWYR IEITHOEDD TRAMOR, CYFIEITHU A CHYFIEITHU AR Y PRYD Mae’r ganolfan gwaith cartref yn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar a chroesawgar i ymgysylltu â myfyrwyr a chefnogi eich dysgu ymhellach. ACADEMI CYFLOGADWYEDD ABERTAWE Mae myfyrwyr yn elwa o allu cael at Dîm Cyflogadwyedd pwrpasol. Mae gan y tîm hanes o gael swyddi i fyfyrwyr a gallant eich cefnogi trwy gydol eich astudiaethau, ynghyd â chynnig cefnogaeth am bum mlynedd ar ôl graddio.
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:
Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol
Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni
Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol
Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd
Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr
ARIAN A CHYNGOR
Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu.
Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau i / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol.
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws
SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Dewisais Brifysgol Abertawe am ei henw rhagorol ym maes astudiaethau iaith ac addysg, ynghyd â’i chymuned ryngwladol groesawgar a chefnogol. Mae graddio o Brifysgol Abertawe yn
dipyn o gamp sy’n agor byd o bosibiliadau. Mae eich addysg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr i chi a all eich helpu i lwyddo yn eich ymdrechion yn y dyfodol, boed hynny yn eich gyrfa neu’ch bywyd personol. Rwy’n annog pob myfyriwr i wneud y mwyaf o’u hamser ym Mhrifysgol Abertawe ac i gofleidio’r cyfleoedd a’r heriau y byddant yn dod ar eu traws.
YAN CHOI Iaith Saesneg a TESOL, BA (Anrh)
Y prif reswm pam y dewisais i Brifysgol Abertawe oedd oherwydd ei rhaglen academaidd helaeth yn y maes sydd o ddiddordeb i mi. Teimlai’r cwrs hwn (Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) fel cyfle perffaith i gyfuno fy nwy brif angerdd: teithio ac ieithoedd. Mae’r darlithwyr yn gefnogol ac yn gyfeillgar iawn, ac mae cynnwys y cwrs yn gyffrous.
VICTORIA MILLER Iaith Saesneg a TESOL, BA (Anrh)
YMCHWIL
Nodau ein Cyfadran a’n Hysgol yw darparu ymchwil economaidd a chymdeithasol arwyddocaol, parhaus a gwerthfawr yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr gorau a disgleiriaf ledled y byd. Mae gan yr adran Iaith Saesneg, TESOL ac Ieithyddiaeth Gymhwysol ddiwylliant ymchwil bywiog gyda meysydd ymchwil ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys polisi iaith, ieithyddiaeth gymhwysol, astudiaethau geirfa / geiriadurol, Dysgu Iaith â Chymorth Cyfrifiadur, ieithyddiaeth lenyddol, tafodiaith, caffael iaith a dadansoddiad disgwrs.
SUT RYDYM NI’N GWNEUD GWAHANIAETH Gwella llythrennedd adborth ym maes TESOL Archwilio’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Ieithyddiaeth Datblygu profion tueddfryd iaith ar gyfer geirfa
Gweithio ar Gorpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) Defnyddio olrhain llygaid i wella dysgu ieithoedd Fformatau cyflwyno disgwrs mewn lleoliadau ystafell ddosbarth
SBOTOLAU AR YMCHWIL: Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, Cadair Bersonol, Ieithyddiaeth Gymhwysol Mae ymchwil yr Athro Nuria Lorenzo-Dus yn canolbwyntio ar ‘ochr dywyll’ y cyfryngau cymdeithasol, gan weithio i helpu brwydro unigolion a grwpiau sy’n ceisio twyllo, llywio, ecsbloetio ac ysgogi trais. Yn benodol, mae hi’n archwilio’r tactegau cyfathrebu maen nhw’n eu defnyddio: y geiriau maen nhw’n eu defnyddio a’r delweddau maen nhw’n eu postio. Enw’r rhaglen ymchwil sy’n cael ei harwain gan yr Athro Lorenzo-Dus yw Datblygu Gwydnwch yn erbyn Meithrin Perthnasoedd Amhriodol Ar-lein (DRaOG). Mae hi’n gweithio gyda thîm o ieithyddion, troseddegwyr, cyfrifiadurwyr ac mewn partneriaeth ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac elusennau yn rhyngwladol. Fel rhan o raglen DRaOG, maen nhw’n nodi’r tactegau llywio mae oedolion yn eu defnyddio wrth geisio meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol â phlant ar-lein ac – yn anad dim –yn defnyddio canlyniadau’r ymchwil hon i ddatblygu gwydnwch unigol a chymdeithasol yn ei erbyn. Fe wnaeth yr Athro Nuria Lorenzo-Dus gymryd rhan yng nghyfres gyntaf cyfres Podlediad Problemau Byd- eang Prifysgol Abertawe, gan rannu sut mae ei hymchwil arloesol yn helpu i ddatblygu gwydnwch cymdeithasol i frwydro meithrin perthnasoedd amhriodol o natur rywiol â phlant ar-lein.
ARCHWILIO PROBLEMAU BYD-EANG RHIFYN 13: MEITHRIN PERTHNASOEDD AMHRIODOL O NATUR RYWIOL Â PHLANT AR-LEIN: SUT GALLWN NI DDATBLYGU GWYDNWCH CYMDEITHASOL I FRWYDRO YN EI ERBYN? YR ATHRO NURIA LORENZO-DUS
SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL
STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 RYDYM EISIAU CLYWED AMDANOCH CHI! Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 COFIWCH AM Y TERFYN GEIRIAU! Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.
EICH CAMAU NESAF
MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.
HYDRED - TACHWEDD DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.
TACHWEDD - RHAGFYR ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.
EBRILL CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £
CHWEFROR - MAWRTH DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!
IONAWR DYDDIAD CAU UCAS Cofiwch gyflwyno’ch cais ar amser
MEHEFIN DEWISIADAU CADARN AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.
AWST DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.
MAI LLETY
Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk
YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau
CHWARAEON
Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:
•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian
DARPARIAETH GYMRAEG
DIWYLLIANT
Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.
DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR
I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!
Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored
CYSYLLTWCH Â NI
Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU
E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk
www.swansea.ac.uk/cy/diwylliant- cyfathrebu
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Chwiliwch: Prifysgol Abertawe
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24Made with FlippingBook HTML5