BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Mae modd i chi deithio i Ogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia. Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor, byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol
letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global) hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i cwrs arferol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith
Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Astudiais ym Mhrifysgol Genedlaethol Pusan yn Busan, De Korea ar gyfer fy mlwyddyn dramor. Heblaw astudio, fe wnes i hefyd deithio o gwmpas Korea gyda’r ffrindiau gydol oes y gwnes i tra mod i yno. Fy hoff amser yn Korea yn sicr oedd gwyl y blodeuo ym mis Mawrth. Roedd gweld cymaint o goed prydferth yn eu blodau, hyd yn oed o gwmpas y campws, mor anhygoel. Trwy astudio, dysgais sut i fod yn fwy hyderus ynof fi fy hun a bod yn fwy cymdeithasol, oherwydd mewn llawer o sefyllfaoedd, fi oedd yr unig dramorwr yn fy nosbarth, a oedd yn eithaf brawychus i ddechrau. Ond fe ddes i dros hynny a gwneud llawer o ffrindiau tra roeddwn i yno! Dysgais i lawer amdanaf fy hun drwy’r flwyddyn dramor hon a byddwn i’n annog unrhyw un i gymryd rhan petaen nhw’n cael y cyfle! ˆ
ABBIE CAMPFIELD Blwyddyn Dramor: Prifysgol Genedlaethol Pusan yn Busan, De Korea
Made with FlippingBook HTML5