PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:
EFFAITH GYMDEITHASOL 100 YN Y UCHAF
Mae llawer o fwrlwm yng nghymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau sesiynau gydag anifeiliaid egsotig, cyfleoedd i ddysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio drwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau celf a chrefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!
IECHYD A LLES
Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i
wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol ac yn ysgogi newid. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Hunan Ofal: Mae hunan ofal yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr mewn modd gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn.
CYMDEITHASAU
CLWB LLYFRAU
IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL
CYMDEITHAS FFILM
SAESNEG
Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies
Made with FlippingBook HTML5