YMCHWIL
Nodau ein Cyfadran a’n Hysgol yw darparu ymchwil economaidd a chymdeithasol arwyddocaol, parhaus a gwerthfawr yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr gorau a disgleiriaf ledled y byd. Mae gan yr adran Iaith Saesneg, TESOL ac Ieithyddiaeth Gymhwysol ddiwylliant ymchwil bywiog gyda meysydd ymchwil ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys polisi iaith, ieithyddiaeth gymhwysol, astudiaethau geirfa / geiriadurol, Dysgu Iaith â Chymorth Cyfrifiadur, ieithyddiaeth lenyddol, tafodiaith, caffael iaith a dadansoddiad disgwrs.
SUT RYDYM NI’N GWNEUD GWAHANIAETH Gwella llythrennedd adborth ym maes TESOL Archwilio’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Ieithyddiaeth Datblygu profion tueddfryd iaith ar gyfer geirfa
Gweithio ar Gorpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) Defnyddio olrhain llygaid i wella dysgu ieithoedd Fformatau cyflwyno disgwrs mewn lleoliadau ystafell ddosbarth
SBOTOLAU AR YMCHWIL: Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, Cadair Bersonol, Ieithyddiaeth Gymhwysol Mae ymchwil yr Athro Nuria Lorenzo-Dus yn canolbwyntio ar ‘ochr dywyll’ y cyfryngau cymdeithasol, gan weithio i helpu brwydro unigolion a grwpiau sy’n ceisio twyllo, llywio, ecsbloetio ac ysgogi trais. Yn benodol, mae hi’n archwilio’r tactegau cyfathrebu maen nhw’n eu defnyddio: y geiriau maen nhw’n eu defnyddio a’r delweddau maen nhw’n eu postio. Enw’r rhaglen ymchwil sy’n cael ei harwain gan yr Athro Lorenzo-Dus yw Datblygu Gwydnwch yn erbyn Meithrin Perthnasoedd Amhriodol Ar-lein (DRaOG). Mae hi’n gweithio gyda thîm o ieithyddion, troseddegwyr, cyfrifiadurwyr ac mewn partneriaeth ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith ac elusennau yn rhyngwladol. Fel rhan o raglen DRaOG, maen nhw’n nodi’r tactegau llywio mae oedolion yn eu defnyddio wrth geisio meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol â phlant ar-lein ac – yn anad dim –yn defnyddio canlyniadau’r ymchwil hon i ddatblygu gwydnwch unigol a chymdeithasol yn ei erbyn. Fe wnaeth yr Athro Nuria Lorenzo-Dus gymryd rhan yng nghyfres gyntaf cyfres Podlediad Problemau Byd- eang Prifysgol Abertawe, gan rannu sut mae ei hymchwil arloesol yn helpu i ddatblygu gwydnwch cymdeithasol i frwydro meithrin perthnasoedd amhriodol o natur rywiol â phlant ar-lein.
ARCHWILIO PROBLEMAU BYD-EANG RHIFYN 13: MEITHRIN PERTHNASOEDD AMHRIODOL O NATUR RYWIOL Â PHLANT AR-LEIN: SUT GALLWN NI DDATBLYGU GWYDNWCH CYMDEITHASOL I FRWYDRO YN EI ERBYN? YR ATHRO NURIA LORENZO-DUS
Made with FlippingBook HTML5