Saesneg, TESOL a Ieithyddiaeth Gymhwysol

Q100 Q112 Q10I

Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, BSc (Anrh) Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae’r BSc mewn Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth gymhwysol yn rhoi sylfaen gadarn i raddedigion mewn dadansoddi iaith, meddwl beirniadol a sgiliau ymchwil. Bydd yn hyfforddi myfyrwyr ar ddadansoddi iaith a defnydd iaith perthnasol i ddiwydiant, gan gynnwys cyfathrebu gofal iechyd, deallusrwydd dynol-beirianyddol, datblygiad llythrennedd ac iaith mewn ysgolion, llunio polisïau yn gysylltiedig ag iaith, a dadansoddi fforensig mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol. Mae’r radd BSc yn cynnwys ymagweddau a dulliau ystadegol, cyfrifiannol a gwyddonol.

QQ31 QQ33 QQ3I

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Bydd astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o iaith a llenyddiaeth Saesneg a sut mae cysylltiad annatod rhwng llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a hanes. Byddwch yn darganfod sut rydym ni’n caffael iaith, sut mae iaith yn gweithio a sut mae cymdeithasau wedi cyfathrebu, o Beowulf hyd heddiw. Cewch gyfle i astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, gan gynnwys llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a genre, llenyddiaeth y 19eg ganrif, ffuglen gyfoes, rhywedd a diwylliant, ysgrifennu creadigol ac ysgrifennu proffesiynol.

PQ91 PQ00 PQ9I

Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Os yw dysgu mwy am Iaith Saesneg a’i defnydd yn y cyfryngau o ddiddordeb i chi, neu os ydych chi’n ystyried gyrfa yn niwydiant y cyfryngau, gallai’r BA (Anrh.) mewn Iaith Saesneg a’r Cyfryngau fod yn ddelfrydol i chi. Mae’r cwrs yn dechrau trwy roi sylfaen i chi yng nghyfathrebu’r cyfryngau, hanes yr iaith Saesneg, addysgu iaith a methodoleg cyn i chi ddewis modiwlau sy’n gweddu i’ch diddordebau chi, a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio’n fanwl ar y prosiect ymchwil o’ch dewis ar gyfer eich traethawd hir terfynol. Mae’r cwrs hefyd yn archwilio ymarfer cyfryngau creadigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys cynhyrchu radio a fideo, cyfryngau digidol a chymdeithasol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a marchnata. Mae rhai modiwlau ar gael yn Gymraeg, hefyd.

Made with FlippingBook HTML5