Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
QX33 QX00
Nod y cwrs BA (Anrh.) Iaith Saesneg a TESOL ym Mhrifysgol Abertawe yw rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o’r iaith Saesneg a sut y gellir ei defnyddio i addysgu Saesneg fel ail iaith neu iaith dramor (ESL/ EFL). Byddwch yn dysgu am theori ac ymarfer TESOL, ynghyd â’r dulliau a’r ymagweddau gwahanol ar gyfer addysgu Saesneg. Hefyd, gallech astudio ar gyfer CELTA, sef cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu Saesneg fel iaith dramor, sy’n borth i addysgu dramor. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn dysgu am theori ac ymarfer, methodoleg addysgu iaith, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dadansoddiad disgwrs. Hefyd, cewch hyfforddiant ar ddulliau ymchwil, gan gynnwys adrodd a dadansoddi data, a chewch ddefnyddio ein labordy iaith gyda’n technoleg synhwyro fodern sy’n olrhain y llygaid.
QXH3 QX01
Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
QXHI
Archwiliwch dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o’r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, ochr yn ochr â TESOL, a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i chi addysgu Saesneg fel ail iaith. Dysgwch am fethodoleg addysgu iaith, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dadansoddiad disgwrs.
Hefyd, mae cyfle i ennill y cymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol, CELTA (Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu Saesneg i Oedolion), i athrawon Saesneg fel iaith dramor.
Made with FlippingBook HTML5