CROESO
RYDYM YN CYNNIG:
Croeso cynnes i Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o academyddion at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis o yrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.
Modiwlau amrywiol ac arloesol wedi’u creu gan arbenigwyr yn eu maes Cyfleoedd i astudio dramor a blwyddyn mewn diwydiant Cyfraniadau gan arbenigwyr o fyd gwaith a llenorion creadigol
SGILIAU I’W CAFFAEL:
Ymchwil a meddwl yn feirniadol Astudio’n annibynnol Sgiliau ieithyddol cadarn a gafael ar ramadeg y Gymraeg Sgiliau rheoli prosiect Sgiliau cyfathrebu heb eu hail a sgiliau gweithio mewn grwp ˆ
MAE EIN MYFYRWYR:
Yn cael eu harfogi â sgiliau ar gyfer gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad. Yn elwa ar gymorth ac arweiniad helaeth. Yn cael eu cynnwys yn weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol
Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
Made with FlippingBook HTML5