Cymraeg

CYMRAEG Gallwch fireinio eich sgiliau ac ymbaratoi am fyd gwaith drwy astudio am radd yn y Gymraeg. Rydym yn canolbwyntio ar eich datblygu hyd at eich potensial llawn a rhoi’r wybodaeth i chi agor drysau i yrfaoedd ym myd addysg, llywodraeth leol, y Senedd, cyfieithu, darlledu a’r cyfryngau, byd busnes, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, ac ysgrifennu creadigol. EIN GRADDAU

Q561 Q562

Cymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh) Cymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Gallwch ymgolli mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg gan ddysgu am hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yr iaith ar yr un pryd ar ein rhaglen BA Cymraeg (iaith gyntaf). Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o’r traddodiad barddol canoloesol i ganeuon protest modern. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, ieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Made with FlippingBook HTML5