Ffilm a Diwylliant Gweledol

FFILM A DIWYLLIANT GWELEDOL Mae ein Ffilm a Diwylliant Gweledol, BA (Anrh) yn rhaglen ryngddisgyblaethol newydd gyffrous a anelir at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn archwilio sbectrwm eang o ddiwylliant gweledol a ffilm. Mae’r rhaglen yn ymchwilio i ddiwylliant cyfoes trwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, gemau fideo, cyfryngau creadigol a mwy. Astudiwch Ffilm a Diwylliant Gweledol gyda ni a byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa gyffrous yn y diwydiannau diwylliannol, y cyfryngau, marchnata, neu feysydd cysylltiedig, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy, sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac sy’n agor ystod ehangach o gyfleoedd gyrfa. EIN GRADDAU

P410 P41A P41I

Ffilm a Diwylliant Gweledol, BA (Anrh) Ffilm a Diwylliant Gweledol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Ffilm a Diwylliant Gweledol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae’r rhaglen israddedig hon yn cwmpasu ystod eang o agweddau ar ddiwylliant gweledol a ffilm, gan gynnwys theori ffilm, dadansoddi diwydiannau sgrin, dysgu am dechnegau adrodd straeon ar draws gwahanol gyfryngau, a thechnegau allweddol wrth ddadansoddi a darllen amrywiaeth o destunau gweledol yn agos. Mae’n cynnig cyfuniad o theori ac ymarfer o fewn tri philer: Ffilm, Diwylliant Gweledol, ac Ymarfer. Rydym hefyd yn cynnig Blwyddyn mewn Diwydiant neu leoliad gwaith, a fydd yn rhoi profiad uniongyrchol i chi, a bydd gennych yr opsiwn o astudio Blwyddyn Dramor.

Made with FlippingBook HTML5