Your Special Day in the Vale of Glamorgan

10

Pryd? Nodwch eich dyddiad a dewiswch eich seremoni

Dewiswch eich dyddiad – mae’n well cael rhai opsiynau mewn golwg os gallwch, rhag ofn bod eich lleoliad dewisol yn brysur.

ben-blwydd arbennig, ac mae’n esgus gwych am barti! Efallai fod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio ers eich seremoni gyntaf, a’ch bod eisiau ail-fyw’r diwrnod. Neu efallai ei bod yn fwy diweddar gyda llai o westeion nag y byddech wedi’i ddymuno. Beth bynnag yw’r rheswm - nodwch ddyddiad, archebwch Gofrestrydd, dewch â’ch anwyliaid at ei gilydd a byddwn yn sicrhau ei fod yn ddiwrnod i’w gofio! Enwi neu Ddathlu Teulu – Dathlwch ddyfodiad babi neu blentyn newydd, drwy enedigaeth, mabwysiadu neu uno teuluoedd – gyda seremoni enwi neu ddathlu teulu hyfryd. Mae’n gyfle gwych i ddod â’ch teulu a’ch ffrindiau i gwrdd ag aelodau(au) mwyaf newydd eich teulu. Dewis iaith – Gallwn gynnal eich seremoni yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’n ddwyieithog. Beth bynnag sydd orau gennych, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu.

Dewiswch eich seremoni -

Priodas – Yn llawn traddodiad ond yn ddigon hyblyg i’ch galluogi i wneud eich peth eich hun. Bydd ein cynllunydd seremoni ar-lein yn eich galluogi i deilwra cynnwys eich seremoni tra’n sicrhau bod yr holl elfennau cyfreithiol yn cael eu cynnwys. Partneriaeth Sifil – Dewis modern gyda hyd yn oed mwy o hyblygrwydd; nid oes angen seremoni i ffurfio partneriaeth sifil. Mae hyn yn golygu y gallwch chi a’ch tystion lofnodi eich dogfen a mynd. Ond, os ydych eisiau cyfnewid addewidion mewn seremoni, gyda pharti i ddilyn, mae hynny’n iawn hefyd. Chi sy’n dewis y cyfan! Defnyddiwch ein cynllunydd seremoni i’w wneud yn bersonol i chi. Adnewyddu Addewidion neu Ddathlu Priodas – Mae hyn yn ffordd hyfryd o nodi dathliad nodedig neu

Bobbie Lee Photography

Made with FlippingBook Digital Proposal Creator