Your Special Day in the Vale of Glamorgan

18

Hensol Castle

Yn swatio o fewn 650 erw yng nghefn gwlad hardd Cymru mae’r lleoliad stori dylwyth teg o’r 17eg ganrif, Castell Hensol. Mae’r lleoliad priodas mawreddog hwn ym Mro Morgannwg, wedi cael ei adnewyddu mewn ffordd sympathetig ac mae’n cynnwys cymysgedd o addurniadau cyfoes a phensaernïaeth y cyfnod - ffenestri bwaog, paneli derw a grisiau trawiadol. Yn unigryw i chi am y diwrnod, mae’n rhaid gweld Castell Hensol i’w gredu! Mae’r Ystafell Dderw ysblennydd yn berffaith ar gyfer seremonïau a cheir golygfeydd gwefreiddiol o’r llyn 15 erw a’r pontwˆn sy’n creu cefndir trawiadol ar gyfer y lluniau hollbwysig hynny. Neu, gall cyplau nawr fod yn rhan o gefn gwlad trawiadol Cymru mewn seremoni awyr agored ramantus o dan y llwyfan bandiau hyfryd. Mae gan bob twll a chornel o’r lleoliad ysblennydd hwn gilfachau a mannau cudd ar gyfer lluniau priodas unigryw, neu hyd yn oed i fwynhau eiliad dawel a chael saib fel pâr priod newydd. Cynhelir derbyniadau yn Neuadd fodern y Cwrt, sydd wedi ei haddurno’n foethus gyda lle i 150 o ffrindiau ac anwyliaid ar gyfer y brecwast priodas a 200 ar gyfer y derbyniad gyda’r nos. Mae’r tîm yng

Nghastell Hensol yn credu y dylai’r prydau a weinir ym mhob brecwast priodas fod yn eithriadol, a dyna pam mae eu cogyddion yn ymrwymo i sicrhau bod bwydlen pob priodas mor flasus â’i gilydd. Mae pob plât yn berffaith. Yna, pan fyddant yn barod, gall y gwesteion symud i un o’r ystafelloedd gwely moethus a chwbl unigryw, bob un â nodweddion hardd a phwrpasol yn addas i deulu brenhinol; meddyliwch am faddonau dwfn a gwelyau pedwar postyn. Hefyd, os yw’r pâr pwysig yn hoffi jin, mae Castell Hensol yn cynnig poteli bach o’u jin Sych, Orennau Gwaed neu Mefus a Hibisgws o Gymru fel rhodd i westeion! Wedi ei wneud yn eu distyllfa ar y safle, mae’r rhoddion priodas hyn ar gael gyda labeli brand safonol neu bersonol gyda manylion y briodas i greu cofrodd berffaith o’r diwrnod. I holi am gael eich priodas tylwyth teg yng Nghastell Hensol ewch i www.hensolcastle.com neu cysylltwch â nhw ar 01443 665803 | sales@hensolcastle.com.

Made with FlippingBook Digital Proposal Creator