Your Special Day in the Vale of Glamorgan

20

Penarth Masonic Hall

Croeso i Neuadd y Seiri Rhyddion Penarth – lle mae bwyd gwych, ffrindiau gwych, a lleoliad gwych yn dod at ei gilydd. Mae’r adeilad treftadaeth art deco cain hwn o 1927 wedi cael ei adnewyddu’n helaeth sy’n gwneud Neuadd y Seiri Rhyddion Penarth yn un o’r lleoliadau priodas gorau yn Ne Cymru. Gallant ddarparu ar gyfer partïon o hyd at 140 yn gyfforddus ar gyfer cinio a derbyniad gyda’r nos. Bydd eu cydlynydd priodasau yn teilwra pecyn pwrpasol wedi ei deilwra i’ch gofynion unigol a bydd ar gael bob cam o’r ffordd tan eich diwrnod arbennig. Mae’r gwasanaethau ategol yn cynnwys Derbyniad Carped Coch ar gyfer y Pâr Priod, Napcynau a goleuadau LED o’r un lliw, defnydd unigryw o’r cyfleusterau a llawer mwy i wneud eich diwrnod yn ddi-drafferth.

Byddwch chi a’ch gwesteion yn symud yn llyfn rhwng Bar Penarth, Lolfa’r Barbariaid, y Deml Fawr, ac Ystafell Ddawns Plymouth tra bod y staff y tu ôl i’r llenni yn darparu priodas eich breuddwydion. Bydd bwydydd a gwinoedd rhagorol, gyda gwasanaeth cyfeillgar yn creu diwrnod y byddwch chi a’ch partner yn ei gofio am byth. Priodasau yw eu harbenigedd. Cysylltwch i drafod eich diwrnod arbennig.

55 Stanwell Road, Penarth CF64 3LR Ffôn: 02920 709330 E-bost: query@penarthmasonichall.co.uk Gwefan:www.penarthmasonichall.co.uk FB: penarthmasonichall

Made with FlippingBook Digital Proposal Creator