Pecyn Pwnc Cyrsiau Proffesiynnol y Gyfraith

CYMORTH MYFYRWYR

Cefnogir ein holl fyfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau gan ein Swyddfa Gwybodaeth i Fyfyrwyr, sydd wrth law i ateb pob ymholiad academaidd a phersonol, naill mewn person neu’n defnyddio sianeli digidol. Mae ystafelloedd preifat ar gael i hwyluso sgyrsiau cyfrinachol. Mae pob myfyriwr hefyd wedi ei ddynodi’n Diwtor Personol, gyda chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu trefnu i ateb unrhyw ymholiadau manwl y bydd gennych, neu i gynnig cymorth ac arweiniad personol ar gyrraedd eich nodau. Fel un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth ehangach ar draws y brifysgol. Mae hyn yn cynnwys llu o gefnogaeth ariannol, bersonol a lles ar ein platfform MyUni, yn ogystal â mynediad i ddigwyddiadau cymdeithasol ac academaidd.

I gefnogi eich astudiaethau, gallwch hefyd gael mynediad i’r Hwb Canvas, sy’n cynnwys adnoddau dysgu allweddol, cefnogaeth, digwyddiadau a chyhoeddiadau myfyrwyr.

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

Made with FlippingBook HTML5