Pecyn Pwnc Cyrsiau Proffesiynnol y Gyfraith

PROFIAD MYFYRWYR Mae gan yr Ysgol galendr amrywiol o ddigwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau sy’n cael ei gynnal drwy’r flwyddyn academaidd. Mae’r Tîm Profiad ac Ymgysylltu Myfyrwyr yn gweithio gyda’r Undeb Myfyrwyr i drefnu digwyddiadau pwrpasol ar gyfer ein myfyrwyr. Mae Cymdeithasau yn rhan hanfodol o’ch profiad fel myfyriwr ac mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl o’r un anian a gwneud ffrindiau newydd. Gall hefyd roi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i chi ar gyfer cael gwaith yn y dyfodol. Mae gen Prifysgol Abertawe dros 150 o gymdeithasau, felly mae digon i chi ddewis ohonynt, gan gynnwys y Gymdeithas y Gyfraith a Chymdeithas y Bar sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr.

Roedd fy mhrofiad yn Abertawe heb ei ail. Roeddwn i’n ffodus i fod yn ran o’r Cynllun Lleoliadau Gwaith ac rwyf yn argymell yn drylwyr. Mae’r staff addysgu a chefnogol anhygoel ac rwyf yn diolch iddynt am bob eu cymorth a’u hanogaeth.

KELLY SAWYER LLB, LPC Cyfreithiwr, Irwin Mitchell Solicitors

O’r diwrnod cyntaf, roedd fy narlithwyr yn angerddol a brwdfrydig ac fe wnes i fwynhau pob eiliad. Gallaf ddweud yn onest na fyswn lle ydw i heddiw heb y gefnogaeth ges i yn Abertawe. Cefais gyfleoedd anhygoel, a dal i siarad amdanynt mewn cyfweliadau swydd heddiw (bydd gwneud profiad gwaith yn Botswana bob amser yn uchafbwynt). Roedd fy narlithwyr yn credu ynof fi ac yn rhoi’r hwb oedd angen arnaf i ddechrau fy ngyrfa a fyddaf yn fyth ddiolchgar am hyn.

DANIELLE MURPHY LLB, LLM, LPC Cyfreithiwr , BT/EE Commercial Contracts Team

Made with FlippingBook HTML5