LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol
Mae Arferion Cyfreithiol Proffesiynol LLM yn gwrs i raddedigion y Gyfraith a’r rheiny sydd â Diploma Graddedig yn y Gyfraith. Dyluniwyd ar gyfer y rhai sy’n awyddus i baratoi ar gyfer Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 a 2 (SQE1&2). Mae’r LLM yn gwrs ymarferol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau’r SQE ac ar gyfer llwyddiant mewn ymarfer cyfreithiol.
LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol
Cwrs trosi wedi’i ddylunio ar gyfer graddedigion nad ydynt yn y gyfraith sy’n awyddus i baratoi ar gyfer Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 (SQE1). Gellir astudio’r LLM yn llawn amser dros ddeunaw mis. Mae’n cynnwys sylfaen y gyfraith, meysydd ymarfer craidd a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer asesiadau SQE1 o fewn cymhwyster lefel meistr a gaiff eu cydnabod a’u gwerthfawrogi gan darpar gyflogwyr.
LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch
Mae’r LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch yn cyfuno ein Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) gyda modiwl drafftio annibynnol, i wella’ch sgiliau cyfreithiol a rhoi cymhwyster lefel meistr gwerthfawr i chi. Mae’r LLM yn gwrs ar gyfer graddedigion y gyfraith a’r rhai sydd â Diploma Graddedig yn y Gyfraith. Mae’r LLM yn gwrs ymarferol, a addysgir yn gyfan gwbl gan gyfreithwyr a bargyfreithwyr profiadol, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i fod yn gyfreithiwr dan hyfforddiant llwyddiannus.
Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC)
Mae’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) yn gwrs i raddedigion y gyfraith a’r rhai sydd â Diploma Graddedig yn y Gyfraith. Mae’n gam hanfodol ar y llwybr i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr i’r rhai sy’n ceisio gwneud hynny trwy gyfrwng contract hyfforddi. Mae’r LPC yn gwrs ymarferol, sy’n cael ei ddysgu’n gyfan gwbl gan gyfreithwyr a bargyfreithwyr profiadol, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i fod yn gyfreithiwr dan hyfforddiant llwyddiannus. Gellir astudio’r LPC yn llawn amser dros y cwrs blwyddyn, neu yn rhan amser dros ddwy flynedd.
I gael rhagor o wybodaeth am ba gwrs fyddai’n addas i chi orau, ewch i’n gwefan bwrpasol: swansea.ac.uk/cy/y-gyfraith/cycp
Made with FlippingBook HTML5