Pecyn Pwnc Cyrsiau Proffesiynnol y Gyfraith

GYRFAOEDD A CYFLOGADWYEDD Byddwch yn elwa o gael mynediad i’n tîm ymroddedig Cyflogadwyedd a Lleoliadau, sy’n cynnig cymorth wedi ei deilwra i’ch gofynion personol. O gymorth gydag eich CV i help paratoi am gyfweliadau, a chymorth gyda threfnu digwyddiadau i’ch rhoi mewn cysylltiad â cyflogwyr allweddol, mae’r tîm yn cynnig amrywiaeth o gymorth a fydd yn helpu chi i symud ymlaen â’ch gyrfa, sydd ar gael i hyd at 5 mlynedd ar ôl i chi raddio. Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein Cynllun Lleoliadau, sy’n eich galluogi i gael profiad amhrisiadwy gyda chyflogwyr lleol. Mae bwrsariaethau ar gael i’r rhai a fyddai’n elwa o gymorth ariannol pan fydden ymgymryd â’u lleoliad. Mae gennym hefyd gymuned o graddedigion llewyrchus, a hwylusir ar ein llwyfan Cyswllt Abertawe. Mae’r gymuned groesawgar hon yn meithrin y datblygiad o gysylltiadau proffesiynol a phersonol, a bydd yn caniatáu eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd cyflogaeth ar ôl i chi raddio.

Made with FlippingBook HTML5