Swansea University Postgraduate Prospectus 2021

NGHYMRU AR GYFER RHAGORIAETH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 1 AF YNG

CYMRAEG CAMPWS SINGLETON

Mae ennill gradd uwch yn y Gymraeg drwy astudio unrhyw elfen o iaith, cymdeithaseg iaith, cyfraith a pholisi iaith, llenyddiaeth, hanes neu ddiwylliant modern Cymru, yn cynnig profiadau cyffrous ac amrywiol. Mae’n meithrin dealltwriaeth ac ysbryd creadigol wrth i ni chwilio am ffyrdd newydd a gwreiddiol o ddehongli diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg a chyfrannu atynt.

Dangosodd canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 i’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ddod yn gyntaf o blith y sefydliadau o Gymru a gyflwynodd eu gwaith i’r is-banel Astudiaethau Celtaidd, ac yn ail yn y Deyrnas Unedig. Dynoda’r canlyniadau fod 100% o waith ymchwil y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe o safon ryngwladol neu’n uwch na hynny, a bod 69% ohono o safon ragoriaeth yn rhyngwladol, neu’n arwain y maes yn rhyngwladol (3-4*). Mae’r canlyniadau hyn yn gyson â rhai’r ddau arolwg ymchwil blaenorol ac yn cadarnhau statws a bri Abertawe ym maes ymchwil y Gymraeg. Mae ein holl waith addysgu a chyfarwyddo’n dibynnu ar arbenigedd y staff ymchwil ac rydym yn cydweithio â sefydliadau eraill megis Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae arbenigedd y staff yn amrywiol, fel a welir uchod, a chewch y cyfle i ymuno â’n Seminar Gymraeg sy’n rhan o Ganolfan Richard Burton. Fforwm amlddisgyblaethol yw hwn sy’n rhoi llwyfan i ymchwil ein staff a’n myfyrwyr, ac rydym yn cyfrannu at nifer o raglenni seminar a chynadleddau yn y Brifysgol.

CYFIEITHU PROFFESIYNOL MA FT PT Dyma’r radd berffaith ar gyfer y rhai sydd am weithio ym maes cyfieithu. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd sgiliau gramadeg ac ysgrifennu da a defnyddio meddalwedd cof cyfieithu. Bydd y cwrs yn ystyried cyfieithu ar gyfer y cyhoedd, dull mwy technegol o gyfieithu ar gyfer arbenigwyr, yn ogystal â chyfieithu ar y pryd. Defnyddir amrywiaeth o dechnegau i ddatblygu safonau cyfieithu, gan gynnwys profiad gwaith. Mae’r cyfuniad o gyfieithu gyda thechnoleg cof a datblygu meistrolaeth ieithyddol trwy adborth yn gaffaeliad mawr i raddedigion.

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

CYRSIAU A ADDYSGIR Gofynion Mynediad Gan amlaf, gradd Anrhydedd 2:1 neu uwch yn y Gymraeg neu bwnc cysylltiedig. Gellir ystyried profiad perthnasol ochr yn ochr â phortffolio o waith diweddar hefyd. Gallu ieithyddol Dylai cymwysterau a phrofiad yr ymgeisydd amlygu ei allu/gallu ieithyddol, ond gellir trafod hyn mewn cyfweliad. Gellir llunio traethawd ymchwil yn Gymraeg neu Saesneg ac mae modd i fyfyrwyr ôl-raddedig ddilyn cyrsiau iaith pwrpasol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ariannu ar gyfer graddau a addysgir a graddau ymchwil. Mae ein myfyrwyr wedi cael eu hariannu yn y gorffennol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn ogystal â sefydliadau Cymreig fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ymddiriedolaeth Pantyfedwen: swansea.ac.uk/cy/ol- raddedig/ffioedd-ac-ariannu/ ysgoloriaethau/

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

81

Made with FlippingBook - Online magazine maker