Our Stategic Vision and Purpose Cym

EIN CENHADAETH DDINESIG Rydym yn falch o berthyn i Ddinas Abertawe a Dinas-ranbarth Bae Abertawe ehangach ac rydym yn dathlu’r dreftadaeth honno. Gyda champysau yn ardaloedd tri awdurdod lleol, rydym yn cydnabod mai prifysgol y rhanbarth yw ein Prifysgol ni, ac mae gennym gyfrifoldeb i weithio gyda’n cymuned a Chymru ac er eu lles.

“Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth go iawn, gweld yr holl ffyrdd mae ein cydweithwyr a’n myfyrwyr wedi camu i’r adwy i gefnogi ein cymuned yn y frwydr yn erbyn Covid-19. Dylem fod yn falch o sut mae ein Prifysgol wedi ymateb i’r pandemig.” CS, Y Gyfraith gweithgareddau’n bwysig i bobl yn ein cymuned, o’n prosiect i adfywio Gweithfeydd Copr yr Hafod-Morfa a arweinir gan dreftadaeth a’n harlwyaeth ddiwylliannol, i ddarparu addysg a sgiliau a datblygiad economaidd ein rhanbarth. Byddwn yn ennill eu hymddiriedaeth a’u parch, nid yn unig fel cyflogwr mawr neu gyfrannwr at yr economi ranbarthol, ond fel sefydliad sy’n rhoi blaenoriaeth i fuddiannau gorau ei gymuned. Byddwn yn gwybod ein bod yn cyflawni rhagoriaeth oherwydd y bydd ein cymuned yn dweud wrthym. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Wrth feddwl am ein cenhadaeth ddinesig, mae cyflawni rhagoriaeth yn golygu dangos pam mae ein Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac wedi cydnabod argyfwng yr hinsawdd. Mae’r ymrwymiad unigryw a wnaed gan Gymru i lesiant cenedlaethau’r dyfodol yn rhoi cyfle i ni ymateb i’w deddfwriaeth ac i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn ein holl weithgareddau. Rydym yn dod ynghyd i gefnogi ein cymuned yn ystod cyfnodau o argyfwng cenedlaethol; yn ystod 2020, cafodd cronfeydd dathlu ein Canmlwyddiant eu dargyfeirio i gefnogi myfyrwyr mewn anawsterau ariannol, lles ac ymchwil mewn perthynas â Covid-19 yn ystod y pandemig.

MEDDYLFRYD BYD-EANG: Rydym yn gweithio i gyflawni atebion lleol i’r heriau byd-eang sy’n effeithio arnom i gyd. Er bod ein cenhadaeth ddinesig â’i gwreiddiau yn ein rhanbarth lleol, mae’n ehangu i gynnwys yr effaith rydym yn ymdrechu i’w chael mewn cymunedau byd-eang. Rydym yn denu cydweithwyr a myfyrwyr i Abertawe o bob cwr o’r byd ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod yr addysg a’r profiadau a ddarparwn a’r ymchwil a wneir yma yn berthnasol yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn bwysig i ni, ynghyd â’r cysylltiadau a’r partneriaethau niferus sydd gennym ledled y byd, o’r prosiectau cymunedol rydym yn rhan ohonynt i’n cyfeillgarwch â Hillary Rodham Clinton a datblygiad ein rhaglen Heriau Byd-eang. Ymdrechwn i weithio mewn partneriaethau agored a theg, yng ngwir ystyr y gair, ac i ddysgu cymaint â phosib gan eraill. CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Yn anad dim, ein nod yw darparu addysg a chyfleoedd dysgu gydol oes sy’n galluogi ein myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth a’r sgiliau i’w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau, ac rydym yn ymrwymedig i ehangu mynediad at addysg ar gyfer cymunedau difreintiedig a’r rhai sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol. Yn yr un modd, rydym yn ymrwymedig i fod yn rhan o brosiectau sy’n cefnogi ac yn gwella lles ein cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Ein hamcan yw grymuso cymunedau a helpu’r rhai di-lais i gael eu clywed, ac anogwn ein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion moesegol sy’n cyfranogi yn eu cymunedau. Rydym wedi llofnodi Cytundeb

GWNEUD GWAHANIAETH: Rydym yn addysgu ac yn hyfforddi’r athrawon, y meddygon, y nyrsys, y parafeddygon a’r gweithwyr allweddol eraill sy’n asgwrn cefn ein cymdeithas, ac sydd wedi arwain ymateb ein cymuned i Covid-19. Mae ein gwasanaeth gwirfoddoli myfyrwyr, Discovery, wedi bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau miloedd o bobl yn ein rhanbarth ers dros 50 o flynyddoedd, ac mae ein prosiectau celfyddydau a threftadaeth a arweinir gan y gymuned yn ein cysylltu â’n gorffennol. Rydym yn cyfrannu at fywyd diwylliannol ein cymuned drwy Theatr Taliesin, y Neuadd Fawr a’r Ganolfan Eifftaidd, ein Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton a thrwy Wobr Ryngwladol Dylan Thomas. Mae T ^ y’r Gwrhyd, ein canolfan Gymraeg yng Nghwm Tawe, yn gwasanaethu ei chymuned drwy hyrwyddo’r Gymraeg, a darparwn ddosbarthiadau iaith Saesneg i’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches sy’n cael eu croesawu i’n rhanbarth. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r ddinas a thimau chwaraeon lleol i ddarparu cyfleusterau chwaraeon a rennir â’r gymuned ac mae gennym uchelgais i sefydlu dinas Abertawe a’n Prifysgol fel prif hyrwyddwyr chwaraeon yng Nghymru. Mae ein gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd a’n gwyliau gwyddoniaeth rheolaidd yn hyrwyddo gwerth addysg uwch a’n hymchwil, ac mae ein gwaith gydag ysgolion a cholegau yn tanio dychymyg pobl ifanc.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

Made with FlippingBook Proposal Creator