Our Stategic Vision and Purpose Cym

PROFIAD EIN MYFYRWYR Ein myfyrwyr yw calon ein Prifysgol. Rydym yn ystyried eu hanghenion a’u disgwyliadau wrth wneud penderfyniadau a gallwn ymfalchïo yn ein henw cryf cyson am ansawdd profiad ein myfyrwyr, cryfder ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, a’n hymrwymiad i iechyd meddwl a lles myfyrwyr. Mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, byddwn yn gweithio i sicrhau bod pob myfyriwr sy’n dewis Abertawe fel ei gartref yn cael y profiad gorau posib yma.

GWNEUD GWAHANIAETH: Mae ein myfyrwyr ni ymhlith y rhai mwyaf cyflogadwy o holl brifysgolion y DU, ac maent yn mynd ymlaen i wneud cyfraniadau gwerthfawr at y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Maent yn unigolion amryddawn a chanddynt amrywiaeth o sgiliau sy’n helpu i greu CV trawiadol. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol at gymdeithas leol drwy raglenni gwirfoddoli ac allgymorth, a byddwn yn gwneud rhagor i hyrwyddo a dathlu’r gweithgareddau hyn. MEDDYLFRYD BYD-EANG: Mae ein myfyrwyr yn rhan o gymuned ryngwladol. Cânt eu haddysgu gan gydweithwyr sy’n dod â safbwyntiau rhyngwladol i’w hystafelloedd dosbarth a chânt eu hannog i archwilio’r byd ar eu liwt eu hunain. Byddwn yn sicrhau y caiff yr holl fyfyrwyr gyfle i ddysgu rhagor am dreftadaeth a diwylliant Cymru ac i gael blas arnynt; i feithrin sgiliau a phrofiadau a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol, lle bynnag yn y byd maent yn dewis gweithio. Ein nod yw creu dinasyddion byd-eang a fydd yn mynd allan i’r byd ac yn gwneud gwahaniaeth.

CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Rydym yn perfformio’n dda o ran ehangu cyfranogiad a’n cyfraddau cadw myfyrwyr, yn enwedig mewn grwpiau a dangynrychiolir. Byddwn yn parhau i gefnogi myfyrwyr o bob cefndir i elwa o addysg uwch ac i gyflawni canlyniadau rhagorol, a byddwn yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr wrth iddynt ein galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau academaidd ac ar gyfer profiad y myfyrwyr. Byddwn yn parhau i wrando ar ein myfyrwyr ac annog yr adborth sydd yn ein galluogi i ddeall eu hanghenion. Yn bwysicaf oll, byddwn yn parhau i flaenoriaethu lles ein holl fyfyrwyr, yn enwedig y rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, er mwyn sicrhau y gallant fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yn y brifysgol. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni a’r Arolwg Hynt Graddedigion yn fesurau allweddol o’n profiad rhagorol i fyfyrwyr, ond byddwn hefyd yn ceisio dangos rhagoriaeth mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys llwyddiant ein timau chwaraeon, ffyniant ein cymdeithasau myfyrwyr ac effaith Undeb y Myfyrwyr a Discovery - ein gwasanaeth gwirfoddoli i fyfyrwyr.

“Dylai ein myfyrwyr deimlo y bydd ganddynt gyfle i newid y byd pan ddônt i Abertawe.” EG, Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

Made with FlippingBook Proposal Creator