EIN DYSGU AC ADDYSGU Mae rhannu gwybodaeth er mwyn meithrin sgiliau meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn elfen sylfaenol o’n diben. Mae’n galluogi ein myfyrwyr i fod yn gadarn yn wyneb heriau byd-eang ac i addasu i fyd gwaith newidiol. Byddwn yn parhau i hyrwyddo dysgu ar-lein a darpariaeth addysgu cyfunol, ymagwedd rydym wedi ei rhoi ar waith a dysgu ohoni yn ystod pandemig Covid-19. Rydym yn dathlu ein treftadaeth Gymraeg ac yn falch o fod yn rhan o genedl ddwyieithog. Rydym yn parchu hawl myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn ehangu ein hystod o gyfleoedd iddynt wneud hynny. Byddwn hefyd yn gweithio i gynnal ein statws fel cymuned sy’n cydbwyso rhagoriaeth ymchwil ac addysgu.
GWNEUD GWAHANIAETH: Mae’r wybodaeth a’r profiadau a ddarparwn i’n myfyrwyr a’r sgiliau rydym yn eu helpu i’w meithrin yn berthnasol i anghenion ein cymuned. Rydym yn croesawu cyfleoedd i gyfuno safbwyntiau ac arbenigedd o ddisgyblaethau gwahanol a byddwn yn datblygu rhaglenni gradd rhyngddisgyblaethol sy’n ychwanegu at ein rhaglenni gradd llwyddiannus mewn pynciau penodol. Byddwn yn ehangu ein darpariaeth o gyrsiau ymhellach i gynnwys rhaglenni newydd sy’n ychwanegu gwerth yn ein rhanbarth ac yn rhyngwladol, er enghraifft mewn fferylliaeth, rheoli a hyfforddi chwaraeon a ffisiotherapi. MEDDYLFRYD BYD-EANG: Mae ein graddedigion yn gweithio mewn byd sy’n gynyddol gysylltiedig lle gofynnir iddynt werthfawrogi a deall diwylliannau a gwledydd eraill. Rydym yn cynnig cyfleoedd creadigol i’n myfyrwyr astudio a gweithio dramor yn ystod eu rhaglenni gradd, ac i gysylltu eu haddysg â’r heriau a wynebir gan gymunedau ledled y byd. Mae’r rhaglenni rydym yn eu darparu’n denu myfyrwyr o dros 140 o wledydd a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ehangu ein darpariaeth ymhellach y tu hwnt i’n ffiniau cenedlaethol.
CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Byddwn yn gweithio i wreiddio’r Nodau Datblygu Cynaliadwy ym mhob rhan o’n cwricwlwm, gan gysylltu addysgu â heriau cymdeithasol. Byddwn yn cynyddu’r gyfran o’n staff sy’n dod o gefndiroedd BAME ar bob lefel a byddwn yn cynnwys rhagor o safbwyntiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ein cwricwlwm i leihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad. Rydym hefyd yn cydnabod y dylai dysgu fod yn weithgarwch gydol oes a byddwn yn cynyddu cyfleoedd i oedolion sy’n dysgu feithrin sgiliau newydd a dilyn trywydd eu diddordebau deallusol. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Byddwn yn mesur llwyddiant ein Strategaeth Dysgu ac Addysgu drwy’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Rydym yn pennu disgwyliadau uchel ac yn mesur ein safonau gan gydweithredu â’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Mae ein Gwobr Aur yn y FfRhA yn adlewyrchu cydnabyddiaeth genedlaethol ein rhagoriaeth.
“Mae’n bwysig ein bod yn dysgu ein myfyrwyr i fod yn wydn ac nid oes dim byd o’i le os nad ydynt yn llwyddo’r tro
cyntaf, bob tro.” JB, y Celfyddydau a’r Dyniaethau
AIL GANRIF AR FRIG Y DON
AIL GANRIF AR FRIG Y DON
Made with FlippingBook Proposal Creator