Our Stategic Vision and Purpose Cym

EIN HYMCHWIL Mae ein hymchwil yn newid bywydau, yn ysgogi arloesi a thwf rhanbarthol ac mae’n cydweddu â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’n effeithio ar ein diwylliant a’n cymdeithas, yn ogystal ag ar ein hiechyd a’n lles, ein heconomi a’n planed. Rydym yn ysgogi newidiadau mewn polisi yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym ar flaen y gad mewn llawer o feysydd, gan gynnwys: gweithgynhyrchu uwch ac arloesi ym maes ynni glân a’r economi ddigidol; nanoiechyd a dadansoddi data iechyd ar raddfa fawr; gwerthuso’r farchnad lafur, defnydd gan derfysgwyr o’r rhyngrwyd a chadwraeth ein treftadaeth ddiwydiannol. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o asesu a lliniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig ag argyfwng yr hinsawdd ac rydym yn gweithio i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac i gyfoethogi bywydau pawb drwy ein dealltwriaeth o hanes a’r celfyddydau.

“Ddylen ni byth anghofio manteision gweithio’n gydweithredol. Allwn ni ddim gweithio ar ein pennau ein hunain, a rhaid i ni barhau i fod yn agored, yn ymatebol ac i ymgysylltu â’r byd.” VT, Engineering

GWNEUD GWAHANIAETH: Mae ein hymchwil yn cael effaith oherwydd ei bod yn cael ei llywio i ddiwallu anghenion ein partneriaid diwydiannol, masnachol, academaidd ac yn y sector cyhoeddus. Byddwn yn parhau i gynhyrchu gwybodaeth a arweinir gan ddarganfod, mewn amgylchedd sy’n galluogi’r cydweithrediadau hyn i ffynnu, ac i ddatblygu, diogelu a masnacheiddio ein hymchwil lle y bo’n briodol. Rydym yn ymrwymedig i annog ymchwil sy’n croesi ffiniau disgyblaethol traddodiadol er mwyn achub bywydau, gwella cymdeithas ac ysgogi arloesi. MEDDYLFRYD BYD-EANG: Mae gennym gydweithrediadau rhyngwladol cryf sy’n rhoi cyrhaeddiad byd-eang i’n hymchwil. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau amlwladol i ddiogelu hawliau a lles dinasyddion yn fyd-eang a chyda rhai o gwmnïau mwyaf y byd i ysgogi arloesi a darganfod. Mae ein cydweithwyr a’n myfyrwyr yn elwa o gyfleoedd i ddatblygu a thyfu partneriaethau ac i ymgymryd â’u hymchwil a’i chyflwyno’n rhyngwladol.

CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Rydym yn sicrhau uniondeb ein gwaith drwy ymagwedd gadarn at foeseg, uniondeb a llywodraethu ymchwil. Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â’n cymunedau lleol a chyda chymunedau ledled y byd, gan ddysgu ganddynt wrth i ni eu cefnogi i ddatblygu. Gan edrych i’r dyfodol, bydd ein hymchwil yn canolbwyntio ar heriau byd-eang, gan gynnwys argyfwng yr hinsawdd a phandemig Covid-19, mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, gofal iechyd a dyfodol gwaith. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Byddwn yn parhau i gynhyrchu ymchwil ac effaith sy’n arwain yn fyd-eang, y gellir asesu eu hansawdd drwy’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a dulliau mesur eraill; rydym yn un o’r 20 o brifysgolion gorau yn y DU am effaith a asesir yn ôl dyfyniadau ac incwm o grantiau ymchwil fesul aelod staff. Gellir mesur ein llwyddiant mewn ffyrdd eraill megis twf ein hincwm o ymchwil, ansawdd ein cydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol, a ffyniant ein cymuned ymchwil ôl-raddedig a’n cefnogaeth i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

Made with FlippingBook Proposal Creator