EIN MENTERGARWCH Rydym yn brifysgol hynod gydweithredol ac entrepreneuraidd. Cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, ac rydym yn parhau’n ffyddlon i uchelgeisiau ein sefydlwyr, drwy weithio gyda phartneriaid diwydiannol, masnachol ac yn y sector cyhoeddus er budd ein rhanbarth a’n cenedl. Rydym yn gwerthfawrogi ein partneriaethau â chwmnïau angori a BBaCh yng Nghymru - mae mwy na 40 o gwmnïau wedi’u cydleoli â ni ar ein campysau - a chyda’r nifer o sefydliadau rydym yn cydweithredu â nhw’n rhyngwladol. Rydym yn annog ein staff a’n myfyrwyr i wneud y mwyaf o’u syniadau - rydym ar y brig yng Nghymru ac yn y pum uchaf yn y DU am fentrau newydd sy’n dal i weithredu ar ôl tair blynedd ac rydym yn cyhoeddi mwy gyda diwydiant nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru.
GWNEUD GWAHANIAETH: Rydym yn meithrin diwylliant o gyd-greu â’n partneriaid. Mae ein cydweithwyr a’n myfyrwyr yn gweithio gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ar fentrau a arweinir gan ddiwydiant sydd o fudd i’n hymchwil ac yn ysgogi arloesi, gan gael effaith economaidd a chymdeithasol. Mae ein hymagwedd entrepreneuraidd yn ychwanegu gwerth at brofiad y myfyrwyr, gan roi cyfleoedd i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol drwy leoliadau gwaith, interniaethau a phrosiectau ymchwil cydweithredol. MEDDYLFRYD BYD-EANG: Byddwn yn ehangu ein partneriaethau â sefydliadau amlwladol mewn amrywiaeth eang o sectorau, yn y DU a thramor. Byddwn yn parhau i feithrin hyder ein cydweithwyr a’n myfyrwyr i sefydlu eu busnesau eu hunain a’r meddylfryd i groesawu a datblygu’r sgiliau creadigol ac entrepreneuraidd a fydd o gymorth iddynt yn eu gyrfaoedd, lle bynnag yn y byd maent yn gweithio.
CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Rydym yn cydweithio â’n partneriaid i gyfnewid gwybodaeth a datblygu sgiliau ar sail foesegol a theg. Er y byddwn yn arwain cydweithrediadau, byddwn yn gwrando ar ein partneriaid ac yn dysgu ganddynt. Ein rôl yw diwallu eu hanghenion, sbarduno eu twf a chefnogi eu datblygiad cynaliadwy i’r un graddau â’n nod i ehangu ffiniau ac arloesi. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Byddwn yn mesur effaith ein hymagwedd entrepreneuraidd drwy’r Fframwaith Cyfnewid Gwybodaeth a’r arolwg Rhyngweithio rhwng Addysg Uwch, Busnes a’r Gymuned. Gellir asesu ein llwyddiant hefyd yn ôl cynnydd yn nifer y sefydliadau rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, ein heffaith ar eu busnes a’r ffyrdd rydym yn ymgorffori entrepreneuriaeth yn ein rhaglenni gradd ac yn y cyfleoedd allgyrsiol rydym yn eu cynnig i’n myfyrwyr.
“Mae gwybodaeth yn werthfawr ond mae’n ddi-werth oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth â hi.” JM, myfyriwr
AIL GANRIF AR FRIG Y DON
AIL GANRIF AR FRIG Y DON
Made with FlippingBook Proposal Creator