Our Stategic Vision and Purpose Cym

EIN BLAENORIAETHAU GALLUOGI

1. Byddwn yn sicrhau bod llywodraethu cadarn, amrywiol a chynhwysol yn tanategu’r adolygiad rydym yn bwriadu ei gynnal o’n Cyngor, ein Senedd ac is-bwyllgorau’r ddau gorff 2. Byddwn yn ailstrwythuro ein Prifysgol i’w gwneud hi’n addas at ein dibenion yn ein hail ganrif, gan gyfuno ein saith coleg yn dair cyfadran er mwyn cynyddu cydweithredu traws-ddisgyblaethol a gwella arweinyddiaeth strategol a chynaliadwyedd ariannol a darparu gwasanaethau’n fwy effeithiol 3. Byddwn yn cynllunio’n gyfrifol i sicrhau ein bod yn wydn yn ariannol a’n bod yn gallu buddsoddi yn y sylfeini a fydd yn cefnogi ein gweithgareddau craidd 4. Fel rhan o’n hymrwymiad i gyfrannu at ddyfodol di-garbon, ac i nodi ein canmlwyddiant, byddwn yn plannu 100 o goed derw Cymreig yn ein rhanbarth a 1,000,000 o hadau morwellt oddi ar arfordir Cymru 5. Byddwn yn gwella cyfathrebu ar draws ein cymuned fel bod ein cydweithwyr, ein myfyrwyr a’n partneriaid yn derbyn yr un neges gyson

6. Byddwn yn dathlu’r cyfraniadau cadarnhaol niferus a wneir gan ein cydweithwyr a’n myfyrwyr yn lleol, gan ddangos eu heffeithiau gwerthfawr 7. Byddwn yn codi arian o amrywiaeth o ffynonellau i adfer T ^ y Fulton i’w ogoniant gynt, â phrofiad y myfyrwyr wrth ei wraidd 8. Byddwn yn ehangu ein hisadeiledd a’n profiadau digidol sy’n cefnogi ein cenhadaeth academaidd 9. Byddwn yn cynyddu cynrychiolaeth amrywiol ar ein pwyllgorau a’n timau arweinyddiaeth, a sicrhau gwelededd grwpiau a dangynrychiolir 10. Byddwn yn gweithio’n systematig i wreiddio cydraddoldeb a chynhwysiant yn ein prosesau a’n llywodraethu a byddwn yn parhau i ymgysylltu â chymunedau a dangynrychiolir i ddeall a chynyddu ymwybyddiaeth o’u hanghenion unigol

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

Made with FlippingBook Proposal Creator