Our Stategic Vision and Purpose Cym

CYFLWYNIAD Wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant, gallwn edrych yn ôl â balchder cyfiawnadwy yn yr hyn a gyflawnwyd gan ein Prifysgol, ers i ni agor ein drysau’n gyntaf i fyfyrwyr ym 1920. Er i’r Cynllun hwn gael ei gyhoeddi ar adeg benodol yn ein hanes, pan fu’n rhaid i ni gydweithio fel cymuned i ymateb i bandemig Covid-19, gallwn hefyd achub ar y cyfle hwn i fyfyrio ar yr hyn y gallem ei gyflawni yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a fydd yn werth ei ddathlu yn ein hail ganrif. Rydym wedi ymgynghori’n eang â’n cydweithwyr, ein myfyrwyr, ein cyn-fyfyrwyr a’n partneriaid i bennu gweledigaeth ein cymuned ar gyfer ei phrifysgol, ei phwrpas, yr ymrwymiadau byddwn yn eu gwneud a’r blaenoriaethau byddwn yn eu cyflawni. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer ein Prifysgol a’r hyn rydym yn ei gynrychioli. Caiff ei hadolygu bob blwyddyn a’i diweddaru mor aml ag sy’n angenrheidiol; caiff ei hategu gan strategaethau manwl â thargedau a mesurau llwyddiant clir ar gyfer pob un o’n pileri craidd a’n sylfeini galluogi. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu meddyliau am Brifysgol Abertawe, ac am y cyfraniadau niferus sydd wedi helpu i egluro ein pwrpas.

EIN STRATEGAETH Rydym yn sefydliad sydd, yn ei hanfod, yn egwyddorol, yn bwrpasol ac yn wydn. Mae ein cymuned o gydweithwyr, myfyrwyr, partneriaid a rhanddeiliaid yn nodweddiadol am y gwerthoedd, y diwylliant a’r ymddygiadau arbennig sy’n greiddiol i ni. Mae ymrwymiad ein cymuned yn tanategu pum piler allweddol ein Prifysgol - ein cenhadaeth ddinesig, profiad y myfyrwyr, dysgu ac addysgu, ymchwil a mentergarwch. Nodir pob un o’r rhain gan ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth, gweithredu â chyfrifoldeb cymdeithasol, ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth a chynnal meddylfryd byd-eang sydd yn ein galluogi i fod yn Brifysgol gymunedol â chyrhaeddiad ac enw rhyngwladol. Mae ein gwaith wedi’i alluogi gan arweinyddiaeth gref a llywodraethu cadarn, cyfathrebu effeithiol ac ymrwymiad i gynaliadwyedd ariannol ac amgylcheddol. Mae’n seiliedig ar ein hisadeiledd digidol a diriaethol, ein strategaeth rhyngwladoli a’n hymagwedd at recriwtio cydweithwyr dawnus a brwdfrydig. I

H

Y

EIN GWERTHOEDD, EIN DIWYLLIANT A’N HYMDDYGIADAU

Yr Athro Paul Boyle CBE, FRSE, FBA Is-ganghellor

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

Made with FlippingBook Proposal Creator