Our Stategic Vision and Purpose Cym

EIN TREFTADAETH

Gellir olrhain gwreiddiau ein sefydliad i freuddwydion y glowyr a’r diwydianwyr a alluogodd sefydlu Prifysgol Cymru drwy eu cyfraniadau. Eu gobeithion oedd y byddai eu prifysgol nhw yn darparu cyfleoedd newydd i’w cymunedau wrth iddi helpu i lunio dyfodol Cymru. Ym 1920, daeth Abertawe’n bedwerydd aelod ffederal y Brifysgol. Crëwyd Coleg y Brifysgol, Abertawe i fod yn sefydliad technegol a fyddai’n gweithio mewn partneriaeth â’i gymuned i ddiwallu anghenion y rhanbarth, a diwydiant lleol yn benodol. Er mai’r Gwyddorau, Mathemateg, Peirianneg a Meteleg oedd ein disgyblaethau sefydlol, ychwanegwyd at y rhain yn gyflym drwy gyflwyno Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Hanes, y Clasuron ac Addysg. Felly, er iddi gael ei sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, y bwriad oedd y byddai ein Prifysgol yn datblygu’n sefydliad eang ac eclectig sy’n cwmpasu’r ystod gyfan o ymdrechion academaidd. Mae’r uchelgais hwn wedi’i gyfleu yn ein harwyddair, gweddw crefft heb ei dawn, ac mae’n wir o hyd heddiw. Wedi’r cwbl, ni yw’r Brifysgol sy’n cyfrif ymhlith ei graddedigion Glanmor Williams, Kenneth O. Morgan a Hywel Teifi Edwards, Mary Williams, Saunders Lewis a Rush Rhees, yn ogystal ag Edward Bowen, Florence Mockeridge ac Oleg Zienkiewicz. Rydym wedi addysgu rhai o’r ffigurau mwyaf rhyfeddol a dylanwadol ym mywyd academaidd a chyhoeddus Cymru, ynghyd ag arwyr chwaraeon ac eiconau diwylliannol.

Campws ein Prifysgol ni oedd yr un cyntaf yn y DU i gael ei adeiladu at y diben, mewn lleoliad deniadol gyferbyn â’r traeth. Roedd ehangu i’n Campws newydd yn y Bae yn 2015 yn ddatganiad pwerus o’n hunanhyder ac yn brawf trawiadol o ba mor bell rydym wedi dod ers ein sefydlu. Mae ein cymuned o fyfyrwyr wedi tyfu o 89 yn unig ym 1920 i bron 22,000 heddiw. Mae ein henw am ragoriaeth addysgu, profiad ardderchog i’n myfyrwyr ac ymchwil arloesol wedi arwain at ein proffil rhyngwladol trawiadol. Rydym yn falch o ennill lle yn gyson ymysg y 10 prifysgol orau yn y DU am foddhad myfyrwyr; o ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn WhatUni ddwywaith yn y pum mlynedd diwethaf; a chael ein cydnabod fel Prifysgol y Flwyddyn Cymru yn ôl The Times a’r Sunday Times ddwywaith mewn pedair blynedd. O ddechreuad diymhongar fel un o Golegau lleol Prifysgol Cymru ganrif yn ôl, rydym yn hyderus ac yn falch heddiw i wasanaethu pobl a diwydiannau ein rhanbarth ac yn ddigon cryf i gystadlu â llawer o sefydliadau gorau’r byd.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

Made with FlippingBook Proposal Creator