School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

MENTER AC ARLOESI

"Rwyf wrth fy modd fy mod yn gallu gweithio ar fy angerdd o redeg fy musnes fy hun ochr yn ochr â fy astudiaethau." LUKE GREEN Myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi)

SYLFAENYDD GOGO COFFEE Coffi cynaliadwy o Gar Clyfar sydd ag allyriadau carbon isel

"Gallaf gymhwyso popeth rwy'n ei ddysgu i fy syniad busnes yn glir, sy'n amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol." GEORGIA EVANS Myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) SYLFAENYDD USHALL Cwmni ar-lein yn gwerthu ffrogiau gyda'r nos ar gyfer achlysuron arbennig "Gwnaeth fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe fireinio fy sgiliau a meithrin craffter busnes byd-eang ynof." NAMEEL BABU Myfyriwr graddedig BSc Economeg a Chyllid, 2019 SYLFAENYDD HOODI E INK Brand dillad sy'n hyrwyddo eco-gyfeillgarwch ac yn pwysleisio hunaniaeth grwp "Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio i mi fy hun, i fod mor llwyddiannus ag sy'n bosib wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymdeithas; dyna pam y penderfynais astudio BSc mewn Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) yn Abertawe." S ION WI LL IAMS Myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

ANNOG MENTERGARWCH MYFYRWYR Mae rhedeg eich busnes eich hun yn gyffrous. Daw â'i heriau a'i lwyddiannau, a all ei wneud yn un o'r swyddi mwyaf gwobrwyol allan yna. Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn helpu i ddatblygu eich busnes o gysyniad i'w wireddu drwy roi'r adnoddau i chi ddatblygu eich syniad i'w lawn botensial.

SUT RYDYM YN EICH CEFNOGI:

Mae llawer o fusnesau llwyddiannus wedi dechrau yn yr Ysgol, o gwmni coffi i fynd, i siop ddillad 'fintej' ac o fenter gymdeithasol yn helpu elusennau i fusnes meddalwedd efelychu hedfan gyda chleientiaid ar draws y byd. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig. Cymerwch gipolwg ar rai o astudiaethau achos ein myfyrwyr menter.

•Tîm cyflogadwyedd i helpu i ddatblygu eich sgiliau arwain •Hyrwyddwyr Menter i sbarduno eich diddordebau entrepreneuraidd •Mentora busnes ochr yn ochr â phartneriaid corfforaethol gyda chyfoeth o brofiad yn y diwydiant •Gweithgareddau, gweithdai a chystadlaethau i'ch helpu i sicrhau cyllid ar gyfer eich mentrau •Modiwlau cwrs i gyfoethogi eich meddylfry dentrepreneuraidd a gallu i feddwl yn feirniadol Rydym hefyd yn cynnig gradd BSc Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) lle rydym yn cyfuno theori gydag addysgu ymarferol i'ch cefnogi drwy'r daith menter busnes - gan ddechrau gyda chynhyrchu syniadau a chynllunio busnes hyd at gyflwyno'r syniad ar gyfer cyllid a phrofi masnachu eich busnes yn y byd go iawn.

CYD-SYLFAENYDD RAVS (RETRO AND VINTAGE STORE ) Siop dillad 'fintej' ac ail-law

Os oes gennych SYNIAD BUSNES, rydym yn benderfynol o'i wneud yn LLWYDDIANT!

"Mae gan y darlithwyr yn yr Ysgol brofiad bywyd go iawn ac mae rhai hyd yn oed wedi rhedeg eu busnesau eu hunain, sy'n fuddiol iawn i ni fel myfyrwyr." NEOPHY TOS IOANNOU Myfyriwr BSc Rheoli Busnes

SYLFAENYDD MENTER PE IRIANT OFFER YSGRI FENNU ARLOESOL

18

19

Made with FlippingBook HTML5