Ar gael ar bob rhaglen
Ar gael ar bob rhaglen
BLWYDDYN mewn diwydiant
Mae gan yr Ysgol Reolaeth nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn.
Mae astudio dramor yn gyfle i gael profiad o ddiwylliannau newydd, cwrdd â phobl o bedwar ban byd a datblygu meddylfryd byd-eang wrth baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae blwyddyn mewn diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn cyflogaeth yn ystod eich astudiaethau i ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth i ategu'r ddamcaniaeth rydych yn ei dysgu yn y brifysgol a'ch gwneud yn fwy cyflogadwy. Byddwch yn:
"Rwy'n teimlo bod cael y cyfle i ddysgu am fusnes ar lefel ryngwladol a sylwi ar y gwahaniaethau diwylliannol sy'n bodoli mewn busnes yn rhywbeth y byddaf yn elwa'n fawr ohonof ar ôl dychwelyd i gwblhau fy mlwyddyn olaf o astudiaethau gartref, ac unwaith eto, pan fyddaf yn dechrau ar fy ngyrfa ym myd busnes. Fy nghyngor i fyfyrwyr sy'n ystyried astudio dramor fyddai achubwch ar y cyfle, yn bendant. Nid wyf erioed wedi difaru'r penderfyniad, a byddwn i'n gwneud blwyddyn arall pe bai modd!"
Derbyn cymorth pwrpasol cyn, yn ystod ac yn dilyn eich blwyddyn mewn diwydiant
Cael mynediad at gyfleoedd cenedlaethol a rhyngwladol
Cael cyflwyniad i'r farchnad recriwtio graddedigion
Ymbaratoi ar gyfer bywyd gwaith ar ôl eich gradd
"Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn darparu ystod ehangach o gyfleoedd ar ôl graddio drwy eich gwahaniaethu oddi wrth eraill a datblygu sgiliau gwerthfawr. Dangosodd fy lleoliad diwydiannol sut beth fyddai gweithio ym maes cyfrifeg a chyllid a chadarnhaodd fy nyhead i aros yn y maes." Khaled Ojra BSc CYFRI FEG A CHYLL ID GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT LLEOL IAD: SONY UK TECHNOLOGY CENTRE SWYDD: PARTNER BUSNES CYLL ID
Bethan Williams BSc RHEOL I BUSNES (CYLL ID) GYDA BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT BLWYDDYN DRAMOR: ECOLE SUPERI EURE DE COMMERCE DE RENNES YN FFRAINC
ASTUDIO
Mae ein tîm Cyflogadwyedd wrth law i gefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i leoliad a'i sicrhau. swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/cyfleoedd-i-fyfyrwyr/blwyddyn-mewn-diwydiant
swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/cyfleoedd-i-fyfyrwyr/blwyddyn-dramor
20
21
Made with FlippingBook HTML5