School of Management Welsh Undergraduate Prospectus 2021

CWESTIYNAU Cyffredin GA I YMWELD Â CHI? Cei. Rydym yn cynnig sawl Diwrnod Agored drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn hapus i drefnu ymweliadau annibynnol (gan gynnwys teithiau tywys

CYMWYSTERAU CYFATEBOL SAFON UWCH (PWYNTIAU TARIFF) 18 UNED BTEC DIPLOMA CENEDLAETHOL

OES ANGEN SAFON UWCHMEWN BUSNES, ECONOMEG, MATHEMATEG NEU GYFRIFEG/CYLLID ARNAF? Nac oes. Rydym yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau, gan gynnwys BTEC, y Fagloriaeth a chymwysterau rhyngwladol cyfatebol, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau opsiynol a fydd yn eich cynorthwyo wrth i chi fynd rhagddo yn eich pwnc gradd dewisol. Gweler ein tudalennau am ein cyrsiau am ragor o wybodaeth: swansea.ac.uk/cy/israddedig/ cyrsiau/ysgol-reolaeth Mae gennym adran ar ein tudalennau gwe sy'n benodol ar gyfer gwybodaeth a chymorth i fyfyrwyr rhyngwladol: swansea.ac.uk/international- students A ALLAF WNEUD CAIS AM FYNEDIAD UNIONGYRCHOL I'R AIL FLWYDDYN? Byddwn yn ystyried ceisiadau am fynediad yn yr ail flwyddyn fesul BLE GALLAF DDOD O HYD I WYBODAETH I FYFYRWYR RHYNGWLADOL? achos i'r rhan fwyaf o raglenni, os oes lleoedd ar gael. Cysylltwch â ni i drafod eich cymwysterau a ph'un a ydych yn bodloni ein meini prawf ar gyfer mynediad yn yr ail flwyddyn. Ffôn: +44 (0)1792 295111 E-bost: astudio@abertawe.ac.uk

PA GYMORTH I FYFYRWYR YDYCH CHI'N EI GYNNIG? Mae cefnogi ein myfyrwyr yn hynod bwysig i ni. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy'n cynnwys pynciau megis iechyd, lles a chymorth i astudio. Hefyd, mae gan yr Ysgol Reolaeth dîm mewnol pwrpasol sy'n canolbwyntio ar gymorth profiad myfyrwyr. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ astudio/adran-gwasanaethau- cymorth-i-fyfyrwyr SUT GALLAF WNEUD CAIS? Rhaid i fyfyrwyr DU/UE sy'n ymgeisio am radd israddedig llawn amser wneud hynny drwy UCAS. Gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y broses gwneud cais ar ein tudalennau gwe: swansea.ac.uk/cy/ israddedig/gwneud-cais A ALLAF GAEL SWYDD RAN-AMSER WRTH ASTUDIO? Cei. Os hoffech chi weithio'n rhan-amser law yn llaw â'ch astudiaethau, mae ein tîm Cyflogadwyedd Yr Ysgol Reolaeth yma i gynnig cymorth, rhoi arweiniad ar gyfleoedd ar gael a'ch helpu i gaffael swydd addas. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chymorth cyflogadwyedd gweler: swansea.ac.uk/cy/ysgol- reolaeth/cyfleoedd-i-fyfyrwyr/ gyrfaoedd

BAGLORIAETH RYNGWLADOL

DIPLOMA MYNEDIAD

a hunan dywys), er mwyn i chi gael blas ar ein prifysgol ac Abertawe. Os na allwch ddod yn bersonol, rydym yn cynnig teithiau rhithwir. Ar gyfer Diwrnodau Agored sydd ar ddod ac opsiynau eraill ar gyfer ymweld â ni, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ diwrnodau-agored BETH YW'R FFIOEDD DYSGU? Myfyrwyr DU/UE: £9,000 y flwyddyn Rhyngwladol: £15,900 y flwyddyn Sylwer y gall y ffioedd hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ israddedig/ffioedd-a-chyllid/ ffioedd-dysgu BETH OS NAD YDW I'N CYFLAWNI'R GRADDAU GOFYNNOL? Rydym bob amser yn ceisio mabwysiadu dull mor hyblyg ag y gallwn, felly peidiwch â phoeni os nad ydych yn bodloni gofynion unrhyw gynnig a wnawn i chi. Rydym yn annog pob ymgeisydd i siarad â ni. Ffoniwch neu e-bostiwch ni a byddwn yn gweithio â chi i geisio dod o hyd i'r cwrs mwyaf addas i chi. Ffôn: +44 (0)1792 295111 E-bost: astudio@abertawe.ac.uk

AAA (144)

DDD

36

45D

AAB (136)

34

39Rh, 6C

ABB (128)

DDM

33

33Rh, 9C, 3P

BBB (120)

32

27Rh, 15C, 3P

BBC (112)

DMM

30

21Rh, 18C, 6P

BCC (104)

28

15Rh, 24C, 6P

CCC (96)

MMM

26

9Rh, 36C, 0P

CCD (88)

24

3Rh, 30C, 12P

NODIADAU

Cyfanswm Pwyntiau BR Yn cyfeirio at gredydau lefel 3: Rh: Rhagoriaeth

C: Clod P: Pasio

Angen Pasio Cyffredinol

OES

OES

OES

Caiff cymwysterau eu hystyried fesul achos.

Mae blwyddyn sylfaen ar gael i fyfyrwyr nad ydynt yn llwyddo i gael y graddau angenrheidiol ar gyfer y rhaglen radd o'u dewis. Gweler tudalennau 28-29.

Os ydych chi'n astudio tuag at gymwysterau y tu allan i'r DU neu os oes gennych gymhwyster nad yw'n Brydeinig, mae'n rhaid i chi gael cymhwyster cyfwerth priodol i gael eich derbyn ar ein cyrsiau ym Mhrifysgol Abertawe. Gellir dod o hyd i'n holl ofynion a gwybodaeth berthnasol ar sail gwlad ar-lein yn: swansea.ac.uk/international-students/international-student-courses Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni Saesneg cyn-sesiynol i alluogi pob myfyriwr i gyflawni ei botensial. Byddwn yn cynnal yr holl raglenni cyn-sesiynol ar-lein. Am ragor o wybodaeth, ewch i: swansea.ac.uk/english-language-training-services

58

59

Made with FlippingBook HTML5